Portmeirion yn 100
Wrth i Bortmeirion ddathlu鈥檙 canmlwyddiant, Betsan Anwyl sy鈥檔 dadlennu rhai o'i stor茂au o'r archif. To mark Portmeirion鈥檚 centenary, Betsan Anwyl uncovers stories from its archives.
Wrth i Bortmeirion ddathlu ei ganmlwyddiant dros y Pasg 2026, Betsan Anwyl sy鈥檔 mynd ar drywydd rhai o hanesion hynod y pentref gwyliau Eidalaidd ei naws 鈥� a hynny trwy gyfrwng gwrthrychau a gofnodir yn archifau鈥檙 Sied Fawr. Cawn glywed am y wraig ecsentrig oedd yn byw yn y t欧 mawr cyn i鈥檙 lle agor fel gwesty, a鈥檙 adroddiad llys yn ei herbyn am fwydo ei ch诺n niferus 芒 bara a llaeth yn ystod cyfnod dogni鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf. Daw disgrifiad cynnar o鈥檙 gwesty o鈥檙 daflen a ddyluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis i hyrwyddo鈥檙 lleoliad yn 1925. Ar y pryd, byddai d诺r yn cael ei gludo gan ddisgyrchiant o鈥檙 bryn gerllaw; doedd dim gwres canolog ond digon o dannau mawr agored; dim lifft ond grisiau derw llydan. Bydd pensaer sy鈥檔 gwneud gwaith ym Mhortmeirion heddiw yn edrych trwy hen gatalog arwerthiant Neuadd Emral yn y Fflint yn 1936 ac yn s么n sut aeth Clough yno ar frys i achub nenfwd rhyfeddol Ercwlff, ei brynu am 拢13 a鈥檌 gludo yn 么l i Bortmeirion. Ymhlith eitemau eraill gaiff sylw mae llythyr personol gan y sgwennwr Jan Morris at reolwr y gwestai, a cherdyn gwestai cyn reolwr y Beatles, Brian Epstein. Roedd e鈥檔 ymwelydd cyson yn y 1960au a byddai鈥檙 dyddiadau ac enwau tai鈥檙 pentref lle byddai鈥檔 aros yn cael eu nodi ar y cerdyn.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 5 Ebr 2026 16:00麻豆社 Radio Cymru
- Sad 9 Mai 2026 17:30麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!