Dr Simon Brooks
Beti George sydd yn holi Dr Simon Brooks. Beti George interviews Dr Simon Brooks.
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy鈥檔 gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus.
Mae wedi cyfrannu鈥檔 sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry.
Yn ogystal 芒鈥檌 waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polis茂au cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith.
Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn s么n am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.
Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Mae'n hoff o gefnogi t卯m p锚l-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant.
Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn s么n am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.
Darllediad diwethaf
Clipiau
-
Sefydlu cylchgrawn Tu Chwith
Hyd: 02:21
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Treiglad Pherffaith
H芒f Yn Llundain ( not for general TX)
- arTaith.
- Lola.
- 4.
-
Brython Shag
Blaenau a Port
-
Geraint Jarman a鈥檙 Cynganeddwyr
Ethiopia Newydd
- Neb Yn Deilwng 1977 - 1997 Goreuon Cyfrol CD1.
- SAIN.
- 2.
-
Morrissey
Irish Blood, English Heart
- You Are the Quarry.
- BMG Rights Management (UK) Ltd..
- 2.
Darllediadau
- Sul 19 Gorff 2026 18:00麻豆社 Radio Cymru
- Iau 23 Gorff 2026 18:00麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people