Vaughan Roderick
Beti George yn holi y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Vaughan Roderick. Beti George interviews Vaughan Roderick, Welsh radio and television journalist and news presenter.
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy鈥檔 adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a鈥檌 Phobol yr wythnos hon.
Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae鈥檔 cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno鈥檙 podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr 芒 Richard Wyn Jones.
Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a鈥檌 fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar 么l gwleidyddion y dydd.
Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae鈥檔 cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu鈥檔 dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda鈥檌 dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili.
Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau.
Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf.
Wedi gadael y brifysgol, bu鈥檔 gweithio yn Sain Ffagan yn archifo sgyrsiau llafar cyn dechrau ei yrfa ddarlledu gyda gorsaf radio fasnachol CBC. Yn ddiweddarach, ymunodd 芒鈥檙 麻豆社, lle sefydlodd ei hun fel un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlycaf Cymru.
Mae鈥檔 mynegi pryder am ddyfodol newyddiaduraeth, gan dynnu sylw at y cyflogau isel sy鈥檔 wynebu llawer sy鈥檔 dechrau yn y proffesiwn heddiw. Mae hefyd yn edrych yn 么l ar ddiwylliant ystafelloedd newyddion hanner canrif yn 么l, gan gynnwys y diwylliant yfed a oedd yn rhan amlwg o鈥檙 byd hwnnw ar y pryd.
Fel rhan o鈥檙 sgwrs, mae Vaughan yn dewis pedair c芒n sydd yn arbennig iddo, gan gynnwys Emyn Groeswen a Rhywle Draw Dros yr Enfys gan Tara Bethan.
Darllediad diwethaf
Clipiau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Cleif Harpwood & Lowri Evans
Tyrd i Edrych
- Tyrd i Edrych.
- Recordiau Sain Cyf.
-
Maharishi
T欧 Ar Y Mynydd
- 'Stafell Llawn M诺g.
- Gwynfryn Cymunedol.
- 8.
-
Tara Bethan
Rhywle Draw Dros Yr Enfys
- 'Does Neb Yn Fy 'Nabod I.
- Sain.
- 13.
Darllediadau
- Sul 2 Awst 2026 18:00麻豆社 Radio Cymru
- Iau 6 Awst 2026 23:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people