Cwm Elan
Jon Gower ac Elinor Gwynn sy'n crwydro llynoedd Cymru yn casglu straeon am eu hanes a'u defnydd heddi a phwy neu beth sydd ar hyd y glannau! Y tro hwn Cwm Elan sy'n cael y sylw.
Mae Jon Gower ac Elinor Gwynn wedi crwydro i Ganolbarth Cymru y tro hwn ac yn chwilota am hanes a straeon cyfoes am gronfeydd Cwm Elan.
Dewi Roberts (Dyn yr Afon) sy鈥檔 crwydro llyn Pen y Garreg gydag Elinor ac yn llythrennol fentro i grombil y gronfa. Mae Jon yn clywed gan Gareth Bonello a fu yn byw yng Nghwm Elan am flwyddyn ac effaith hynny ar ei gerddoriaeth a鈥檌 ddaliadau ehangach. Meic Birtwistle sy鈥檔 creu darlun o gronfa Claerwen a鈥檙 olygfa o Geredigion draw am Gwm Elan.
Mae Cwm Elan a鈥檌 chronfeydd wedi ysbrydoli artistiaid, cerddorion, beirdd ac awduron ar hyd y canrifoedd a chawn glywed pwt o waith Gareth Bonello, Ffransys Payne, a鈥檙 prifardd Hywel Griffiths yn ogystal 芒 chipolwg ar luniau Eustace Tickell o鈥檙 ardal cyn y boddi.
Cynhyrchiad Cwmni Unigryw i 麻豆社 Radio Cymru.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 11 Hyd 2026 16:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!