Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar 么l cael ei darlledu

01/11/2026

Cyfres newydd, yn dathlu gwaith arloeswyr Cymru wrth geisio darogan tywydd y dyfodol. A new series celebrating Welsh innovators as they try to predict the weather of the future.

Cyfres newydd, yn dathlu gwaith arloeswyr Cymru. O ddarogan tywydd ymhen 10 mlynedd i ganfod yr hinsawdd filiwn o flynyddoedd 鈥榥么l. Heriau glanhau d诺r gwastraff a d诺r yfed, cemegwyr yn newid y byd, a hanes pennaeth data arbrawf enfawr yn y Swistir.

Eleni yn Eisteddfod y Garreg Las, enillodd merch y fedal wyddoniaeth a thechnoleg am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd! Ei henw 鈥� Yr Athro Siwan Davies, ac fe fyddwn yn ymuno gyda hi, a鈥檌 myfyriwr PhD, Carys Thomas mewn lab ym Mhrifysgol Abertawe lle maen nhw yn pori dros sleidiau dirifedi o i芒 wedi dadmer er mwyn canfod lludw folcanig. Ma鈥檙 lludw yn rhoi cliwiau i oed yr i芒 鈥� gan ei fod yn dod o losgfynyddoedd a ffrwydrodd flynyddoedd maith yn 么l. Mae modd dyddio yr i芒 felly, sydd wedyn yn help i roi awgrym o sut oedd yr hinsawdd ar y pryd. Wrth edrych n么l fe all Siwan a Carys weld patrwm hinsoddol dros gyfnodau mor hir a miliwn o flynyddoedd yn 么l 鈥� patrwm a all roi cliwiau i ni o sut fydd ein hinsawdd ni yn newid heddiw. Ar yr un pryd, draw ym Mhencadlys y Tywydd yng Nghaerwysg, mae gwyddonydd ifanc Dr Ifan Rodgers yn ymchwilio i dywydd dros y ddegawd nesaf! Edrych ar dueddiadau a thebygolrwydd gan ddefnyddio data a modelau mathemategol wrth ddadansoddi newidiadau bach yn nhymheredd y m么r, neu鈥檙 anrhefn yn yr atmosffer. Edrych n么l ac edrych mlaen wrth drafod ein hinsawdd.

Cynhyrchiad cwmni Telesgop Cyf i 麻豆社 Radio Cymru

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul 16:00

Darllediad

  • Dydd Sul 16:00