Main content

Cerdd Rydd: Oedi.

Er i鈥檓 bywyd ddal i dreiglo,
Y mae rhywbeth yn fy mlino,
Bydd yn taro mor annisgwyl,
Taro鈥檔 daer fel trawiad morthwyl.

Rhwng dau air a rhwng dau damed,
Rhwng dau gam wrth i mi gerdded,
Yn y bwlch bach slei rhwng node,
Daw i鈥檓 taro, nos a bore.

Mewn cwm unig ac mewn tyrfa,
Wrth i gwsg ddod drostai鈥檔 ara鈥�,
Rhwng dau feddwl wrth im鈥� drafod
Ac wrth gyfarch eich cydnabod.

Rhwng dwy ana鈥檒, rhwng dau guriad
Wrth y bwrdd, wrth geisio siarad,
Rhaid i鈥檓 oedi er fy ngwaetha鈥�
Pan ddaw hiraeth ar fy ngwartha鈥�.

Beryl Griffiths

9.5

CYFANSWM MARCIAU PENLLYN: 53.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o