Main content

Ymwelwyr Blewog

Mae Lara yn cyrraedd yn barod i gerdded, ond gyda 'i chorff wedi cuddio o'i chorun i'w thraed. Pam felly? Cywilydd oherwydd mae ganddi flew o dan ei cheseiliau ac ar ei choesau.

Mae hi鈥檔 noson cyn i鈥檙 ffrindiau fynd ar daith gerdded i'r fforest gyda gweddill y dosbarth, ac mae Lara (12) yn brolio am ei dillad newydd hyfryd. Mae鈥檙 bechgyn yn cwestiynu pam mae hyn yn bwysig ac mae Akira (12) yn cytuno - cerdded maen nhw, nid cymryd rhan mewn sioe ffasiynau! Mae Monica (11) yn cefnogi Lara; wedi鈥檙 cyfan, does dim byd o鈥檌 le ar edrych dy orau. Drannoeth, mae Lara yn cyrraedd yn barod i fynd i gerdded, ond mae hi wedi cuddio ei chorff o'i chorun i'w thraed. Mae pawb wedi synnu; ai dyma鈥檙 dillad newydd hyfryd? Mae鈥檙 tywydd yn chwilboeth - fydd hi ddim yn boeth? O鈥檙 diwedd, mae Lara yn tynnu ei thop llewys hir oddi amdani ac yn dangos i Monica ac Akira fod ganddi flew o dan ei cheseiliau ac ar ei choesau. Mae ganddi gymaint o gywilydd, ond dweda Akira fod ganddi hithau flew yn yr un lle hefyd, ac nad ydy hynny鈥檔 rhywbeth i boeni amdano. Mae Lara鈥檔 gweld Tony (13) yn pwyntio ati ac mae hi鈥檔 meddwl ei fod wedi gweld ei cheseiliau blewog ac wedi dweud wrth weddill y bechgyn. Mae hi'n mynnu ei bod am gael gwared ar y blew, ac felly mae ei ffrindiau鈥檔 ei helpu i wneud hynny. Pan fydd Lara鈥檔 s么n am y peth wrth Tony, sylweddola nad oedd hyd yn oed wedi gweld y blew; ar fin canmol ei dillad newydd oedd Tony!

Release date:

Duration:

12 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu