Martin a Fi
Monica wedi disgyn dros ei phen a鈥檌 chlustiau am Martin. Wrth adael y neuadd chwaraeon,mae'r ffrindiau'n sylwi ar Martin yn cusanu Gilberto.Mae breuddwyd Monica yn deilchion.
Mae Monica (11) wedi disgyn dros ei phen a鈥檌 chlustiau am Martin, sy鈥檔 gweithio yn ffreutur yr ysgol. Mae e鈥檔 rhoi blodau ar ei bwrdd hi (a bwrdd pawb arall) ac mae e bob amser yn llawn sgwrs ac yn barod i helpu. Mae Monica druan yn camddarllen ei ymddygiad fel arwydd o鈥檌 gariad tuag ati. Mae hi mor hyderus ei fod e鈥檔 ei hoffi hi, nes ei bod yn penderfynu dweud wrtho鈥檔 union sut mae hi鈥檔 teimlo, er mawr dychryn i鈥檞 ffrindiau. Yn y cyfamser, mae Tony (13) yn bryderus ei fod yn edrych yn 鈥榬hy ifanc鈥� ac yn penderfynu mynd i鈥檙 gampfa i gryfhau ei gyhyrau. Sonia Martin ei fod yn hyfforddi t卯m p锚l-fasged yr ysgol ac awgryma fod Tony yn ymuno 芒'r t卯m, sy鈥檔 ffordd llawer mwy iach o ymarfer. Tra mae'r bechgyn yn chwarae p锚l-fasged, mae Monica yn anfon neges destun at ei mam, yn dweud popeth wrthi am ei 'chariad' newydd. Mae Lara (12) ac Akira (12) yn poeni ei bod yn mynd i gael ei brifo ac yn ceisio ei pherswadio i beidio 芒 chyfaddef wrth Martin sut mae'n teimlo. Wrth adael y neuadd chwaraeon, mae'r ffrindiau'n sylwi ar Martin gyda'i ffrind Gilberto - maen nhw'n cusanu. Dydy Gabriel, Tony a Lara ddim yn gallu credu ei fod yn hoyw. Mae breuddwyd Monica yn deilchion ac mae hi'n beichio cr茂o yn y tai bach. Mae hi'n teimlo wedi drysu a'i bod wedi cael ei gwrthod ac yn beio Martin am y camddealltwriaeth. Mae Akira a Lara yn gwrando ar eu ffrind ac yn ei helpu i deimlo'n well. Ond mae Tony wedi drysu hefyd. Mae Martin yn hoffi comics a ph锚l-fasged a dydy e ddim yn edrych yn hoyw. Beth os bydd pobl yn meddwl ei fod e'n hoyw am ei fod e'n chwarae ar ei d卯m? Mae Llion (13) a Gabriel (13) yn dweud wrtho mai lol ydy hynny a bod siarad fel 'na'n gwneud iddo swnio'n homoffobig. Sylweddola Tony ei gamgymeriad ac mae ganddo gywilydd o'i ragdybiaethau. Yn steil arferol Monica, mae hi wedi 'dod dros' Martin mor gyflym ag y disgynnodd 'mewn cariad' gydag ef, ac mae hi'n penderfynu ymuno 芒 chlwb arall er mwyn cyfarfod bechgyn newydd!
Duration:
This clip is from
Featured in...
@ebion - Priodas Cyfartal—C2, Atebion, 16/06/2013 - Priodas Gyfartal
Clipiau rhaglen @ebion. Nia Medi yn trafod materion sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru.
Tri Chwestiwn i Lara
Animeiddiadau ar gyfer ABCh - CA2 & CA3
More clips from Clipiau Dysgu
-
Ynys Enlli—Dysgu
Duration: 01:00
-
Sea Empress - Llygredd—Dysgu
Duration: 01:53
-
Ray Gravell—Dysgu
Duration: 02:31
-
Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg—Dysgu
Duration: 03:53
More clips from 麻豆社 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—麻豆社 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00
