Main content

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Cerdd Rydd: Hwyrach.

(Sandy Hook)

Mae corneli鈥檙 faner yn cyrlio鈥檔 dyner
yn y gwres,
a mam yn rhoi鈥檙 het gowboi ar ei ben,
ac yn taenu鈥檙 pridd yn drwch
ar ei fochau bach.

Taflu sws, cyn rhedeg 鈥�
gyda鈥檙 byd a鈥檌 ddryll yn ei ddwrn 鈥�
i鈥檞 guddfan yn y coed.
Pop, pop, pop:
芒鈥檙 bwledi鈥檔 chwerthin eu curo
wrth i鈥檙 caniau coch ddawnsio,
a chlatsho i鈥檙 llawr.
Mae e鈥檔 gwenu. Yn edrych i鈥檙 baril, a chwythu.

Mae鈥檙 faner yn crynu
uwch yr iard
a鈥檙 atgasedd yn cronni鈥檔 ei gledrau,
wrth iddo ganu鈥檙 gloch.
Rhoi mwgwd du yn daen,
Ac o wain ei wallgofrwydd

tynnu ar glicied rhy gyfarwydd.
Taflu rheg, a brasgamu
yn olion ei draed i鈥檙 gwyll.
Pop, pop, pop:
a rhes ar 么l rhes o blant
yn tasgu fel tuniau
鈥�
yn ffrwydr o waed a dagrau
i鈥檙 llawr.
Ac mae e鈥檔 gwenu. Yn edrych i鈥檙 baril, a chwythu.

*
Rhes ar 么l rhes.
Dosbarth ar 么l dosbarth.
Baner ar 么l baner
yn hongian heno ar eu hanner.
A thithau鈥檔 dal i droi鈥檙 gwn
at dy ben dy hun.

Mari Stevens

9.5

Cyfanswm Marciau: 54.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o