Anna Rhys yn adrodd eu hanesion o'i chyfnod yn dysgu yn Lesotho ar raglen 3/6/13
annarhys.blogspot.co.uk
Gwelais yr hysbyseb am y Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho ar wefan Dolen Cymru yn ystod fy amser fel au pair yn Sbaen yr ha鈥� d鈥檞ethaf. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae 鈥榤ywyd i wedi newid yn llwyr. Dyma fi, Anna Rhys o鈥檙 Bala, yn setlo n么l i fywyd yng Nghymru ar 么l pum mis anhygoel yn gwirfoddoli fel athrawes yn Lesotho gydag elusen Dolen Cymru. Roedd bywyd yn Lesotho yn wahanol iawn- y bobl, y bwyd, y diwylliant, y traddodiadau, y ffordd o fyw, addysg, ffyrdd o ddisgyblu, bywyd cymdeithasol, moesau a llawer mwy. Doeddwn i ddim yn siwr be鈥� i鈥檞 ddisgwyl, nac os oeddwn i鈥檔 berson digon cryf i oroesi bywyd ym mynyddoedd godidog y wlad brydferth hon sydd wedi cael ei hangofio gan weddill y byd. Aeth pum mis fel y gwynt. Cefais brofiad anhygoel yn dysgu am wlad sy鈥檔 datblygu, gwlad groesawgar tu hwnt a wnaeth i mi deimlo鈥檔 gartrefol ac yn fodlon fy myd. Cawsom ein chwech ein trochi yn yr iaith, y diwylliant, y bwyd, y bwrlwm, y crefydd, y canu a鈥檙 dawnsio, ac roedd hi鈥檔 anodd iawn gadael ein disgyblion a鈥檔 ffrindiau yn Nhref Qacha鈥檚 Nek. Mae gan Lesotho ddiwylliant arbennig o unigryw, gyda鈥檙 trigolion yn teithio ar geffylau yn eu blancedi a鈥檜 hetiau gwellt. Gallwch ddarllen fy mlog: annarhys.blogspot.com i glywed rhai o鈥檙 hanesion doniol a diddorol! Yn sicr, roedd angen bod yn barod yn gorfforol ac emosiynol ar gyfer yr her wobrwyol hon, yn ogystal 芒 digonedd o amynedd a meddwl agored! Alla鈥檌 ddim cyfleu鈥檙 mwynhad a roddodd y profiad yma i mi, a鈥檙 effaith a gafodd arna鈥檌 yn bersonol ac yn broffesiynol. Eleni, mae鈥檙 dyddiad cau ar gyfer yr ymgeiswyr mentrus sydd am rhoi cyfle arni yn Ionawr- Mehefin 2014 ar y 28ain o Fehefin. Cynhelir diwrnodau agored ym Mhrifysgol Bangor ar y 12fed Mehefin (4.30-7.30pm) ac yng Nghaerdydd ar y 23ain Mehefin (amser a lleoliad i鈥檞 cadarnhau). Dewch yn llu i鈥檔 cyfarfod ac i ddysgu mwy am y rhaglen, y wlad a鈥檙 profiadau ffantastig. Y fi oedd yr unig siaradwr Cymraeg eleni, ac yn wir hoffwn i ysgogi mwy o鈥檔 athrawon gwych ni i ymgeisio.