Main content
Cywydd yn diolch am rodd.
I ddiolch am lwyth o dail gan fy mrawd yng nghyfraith
Amheuthun ydoedd, Mathew,
Arogl tail trioglyd tew
Dy domen pan roist imi
Drysor llaith dy wrtaith di.
O鈥檌 roi鈥檔 yr hen gramen grin
Ar waith ym Mancyreithin,
Yn iach eilwaith dychwelodd
Lliwiau鈥檙 haf. Pa raid gwell rhodd?
Baw bendigedig ydyw!
Uwch y clawdd fy niolch clyw
Yn sawr y rhosynnau sy
I鈥檞 gweld dan do鈥檙 Ysgoldy.
[Bancyreithin 鈥� fy nghartref i; Yr Ysgoldy 鈥� cartref Mathew]
Huw Meirion Edwards
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 14/07/2013
-
Ateb llinell ar y pryd.
Hyd: 00:04
-
Telyneg neu Soned: Awr.
Hyd: 00:26
-
Telyneg neu Soned: Awr.
Hyd: 00:43
-
Trydargerdd: Nodyn i atgoffa.
Hyd: 00:12