Telyneg neu Soned: Patrwm
Y synau bach sydd eisiau bod yn eiria鈥� -
fel 鈥榤am鈥� a 鈥榥ain鈥� a 鈥楾wm鈥� sy鈥檔 cynnau gw锚n,
cyn plethu 鈥榝i鈥� ac 鈥榠sio鈥� y tro cynta鈥�
a鈥檙 gred mai 鈥楴a鈥� yw gair mawr pobol hen.
Wrth efelychu deunod 鈥楬eno, heno鈥�,
ymrithia s诺n yn synnwyr 鈥榟en blant bach鈥�,
cyn ffrwydro鈥檔 fwrlwm gwyllt o blesio a phlagio
llawn 鈥榮ws i mami鈥� a direidi iach.
Y geiriau鈥檔 rhewi鈥檔 swil yng ngwres dau gariad
wrth gyffwrdd llaw 芒 gw锚n y wefus fud,
cyn mentro oes 芒 chwestiwn bery eiliad
a gair o ateb dry鈥檔 gyfrolau鈥檜 byd.
M芒n-siarad y blynyddoedd mor ddi-feddwl,
distawrwydd yn dweud mwy am wefr a chraith,
cyn crefu am glywed unrhyw air bach carbwl
gan wraig a mam a nain ar ben y daith.
Eifion Lloyd Jones
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 02/02/2014
-
Telyneg neu Soned: Patrwm
Hyd: 00:33
-
Pennill Ymson mewn Parlwr Tat诺
Hyd: 00:40
-
Cywydd yn dechrau gyda'r gair 'Fesul'
Hyd: 00:31
-
Englyn: Rhes
Hyd: 00:10