Y CWPS: C芒n ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion
Y CWPS: C芒n ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion
Rhowch i mi esgusodion a hynny yn ddi-lol
Tros beidio bod yn Gymro, rwyf wedi cael llond bol.
Mae gen i rai yn barod, sydd yn fy rhwystro i
Rhag bod yn Gymro cyflawn. Fe鈥檜 rhestraf ddau neu dri:
Nid wyf yn gallu canu, ni f没m erioed mewn c么r,
Ni allaf chwarae rygbi, mae gwylio鈥檙 g锚m yn b么r.
Nid wyf yn arddwr medrus. Mae 鈥榥gwinllan wen tan ddrain,
A鈥檙 moch yn sathru trosti yng nghwmni brwd y brain.
Fe esgeulusais hefyd, fel Cymro, 鈥榤hriod waith,
Sef magu clamp o deulu er mwyn trosglwyddo鈥檙 iaith.
Ymhellach dwi 鈥榙i blino, ymbilio yn ddi-baid,
Am ffurflen neu dystysgrif yn iaith fy Nain a 鈥楴haid.
A heddiw ym mro fy ngeni, lle bu鈥檙 Gymraeg mor bur
Nid oes ond llu dieithriaid a鈥檜 swrth acenion sur.
A nawr rwyf am ymuno 芒鈥檙 lleng sy鈥檔 llethu鈥檙 wlad
A cheisiaf esgusodion dros wadu fy yst芒d.
Mae bywyd ar y dibyn yn un sy鈥檔 llawn o stress
Does ryfedd 鈥榤od i鈥檔 ysu i ddianc rhag y mess.
Ond waeth heb geisio esgus, er gwaned yw fy llais,
Fe wn er gwneud pob ymdrech, na fyddaf byth yn Sais.
Dafydd Morgan Lewis
8