Main content
Y FFORDDOLION: C芒n ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion
(c芒n y cyfreithiwr)
O'r holl greaduriaid sy'n y tir
nid oes rhyfeddach i'w gael na dyn:
mae ganddo'r ddawn i stumio'r gwir
a鈥檌 droi i'w bwrpas ef ei hun.
Mor aml y鈥檌 gwelais, o flaen ei well,
鈥檇a golwg ddiniwed mewn siwt a thei
yn dweud mai arall sy'n haeddu cell
gan honni'n gwrtais nad oedd ar fai.
"Fe gerddodd i'm dwrn", "Nid fi piau'r coke"
"Fe'i ffeindiais ar lawr", " 'Dw i'n dweud y gwir";
"'Rwy'n hollol ddiniwed", "Mae hyn yn j么c",
"Wn i ddim sut y daeth y madarch i'm tir".
Ac 'rwy'n poeni'n aml pan ddaw dydd o bwyso
ger Y Barnwr Mawr sydd yn cofio'r cyfan
beth fydd 'na i'w ddweud er mwyn ei ddarbwyllo
nad oes reswm i'w gael am eu cadw allan.
Wedi oes o bledio rhag eu cymeryd i mewn,
bydd pledio mynediad yn dasg go ewn.
鈥�
Dafydd Williams
8