Main content
Y GL脢R: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tynnu鈥檔 Groes
('Ydy鈥檙 Gymraeg yn eich corddi, pam?')
Roedd dyddiau gleision Ebrill yn cega
ymysg ei gilydd; s诺n crawcian cecrus
sy'n hen gyfarwydd; blagurodd geirfa
llynedd i gau eto'r cylch cynhennus:
bygwth tafod, cael clust i'w gyfiawnhau;
oedfaon hirion ar donfeddi gwlad
yn pregethu'u crefydd o ufuddhau;
pobl ddim mwy na chysgod haf. Pwy a wad
i鈥檙 rhai sydd eisoes yn breuddwydio'u gwanwyn
gael dadblethu鈥檙 croesau o'r cynfas glas?
Blodau'r gogledd nad 欧nt gaeth gan wenwyn,
yn deall na all pob diawl gadw'i was.
Wrth greu croesffordd ag inc, c芒nt fesul un
dorri llwybrau newydd, yn llwyr gyt没n.
Osian Rhys Jones
9.5