Main content

Pennill Ymson mewn siop recordiau

Tyrd i ffwrdd efo fi
fel gwyryf (sdim angen siaced).
Mae Llundain yn galw,
mae鈥檙 frenhines wedi marw
a鈥檙 pibydd wrth byrth y wawr.
Mae gwaed ar y cledrau,
y llinellau cyfochrog,
a鈥檙 ystlym o uffern,
o ochr dywyll y lloer,
ac awch am ddinistrio
芒 sibrydion yn yr oriau m芒n.
Ac wele ddieithryn yn ngwledd y cardotwyr
a鈥檙 corynnod o Fawrth wrth y dorau.
Gad o fod,
gad iddo waedu,
tyd i ffwrdd efo fi fel gwyryf -
mae pont dros y dyfroedd aflonydd
i鈥檙 hen ffordd Gymreig o fyw.

Sian Northey
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

49 eiliad