Main content
Cywydd: Ffoi
Nid yw dianc ond awydd
i ffoi drwy dwneli ffydd,
i le gwell o鈥檙 gornel gaeth,
digon ar erledigaeth.
O garchar angen arian
cryfhau i ddianc o鈥檙 fan;
cario pridd, nid cario pres
hynny fel stalag hanes.
Rhyw ddydd o haf daw鈥檙 rhyddhad
ym mhriddoedd fy ymroddiad,
rhyddid yw fy mreuddwyd i
hwyrach, Tom, Dic neu Hari.
Arwel Jones
9