Main content

CRANNOG: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw lle (naill ai yr un lle neu ddau le gwahanol)

鈥楢c ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya, ac yn y bu y nos honno.鈥�

Penllwyn Du yw鈥檙 llety llawn
Lle gwariai Pwyll ac Arawn
Yr amseroedd pan oeddynt
Ar herw rhyw garw gynt.

A ddoe o hyd sy鈥檔 rhyddhau
Dyfedeg hen dafodau
Mewn un gyfeddach lachar
O rithio byd wrth y bar.

Yno fyth yr hen helf芒u
脗鈥檔 un 芒鈥檔 heddiw ninnau.
A鈥檙 Wes Wes yn cynhesu
Lle nid oes fel Penllwyn Du.

Idris Reynolds
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad