Main content

CRIW'R LLEW COCH: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Torf

Atgof am noson yn y capel ar Ynys Enlli ym Mai 1999; Roedd hi鈥檔 noson agor y Cynulliad yn Nghaerdydd. Tra roedd y sbloets fawr yn digwydd yno, roeddem ni yn nodi鈥檙 achlysur yng ngolau cannwyll 鈥� a Mer锚d yn ein plith.

Mae chwech yn dorf ar ynys fach
A mil neu fwy ar lannau鈥檙 Taf
yn ddyrnaid o boblach.

Cannwyll yn y gwyll yn danbaid, fud
A鈥檌 llygad byw yn gweld ymhell
er bod yr haul yn machlud.

Coelcerth wynias, wyllt Y Bae,
Dreigiau 鈥榖ling鈥� yn poeri鈥檔 nagrau鈥檙 t芒n,
Gwlad ! Gwlad ! yw y g芒n
Sy鈥檔 lapio鈥檌 hunan yn ein lluman heno,
- Mewn baner estron yfory eto.

Ar ynys fach mewn capel
llu o chwech yn fintai f芒n,
yn fyfyriol lawen , yn 鈥榣iaws tawel鈥� ,
Fflam yn llosgi鈥檔 ddagrau a鈥檙 ffrydiau cwyr yn fferru -
Nid maint y dorf all fesur gwerth y dathlu.

Mair Tomos Ifans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud