CAERNARFON: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Seremoni
鈥榚xegi monumentum aere perennius鈥�
y bardd bach uwch beirdd y byd
hedodd ei angau i Barcelona hefyd
a minnau鈥檔 syfrdan yn y Sagrada Familia
yn gwylio breichiau鈥檔 codi, yn ceisio dal goleuni,
ymbil eu camer芒u yn ofer ridyllu
tragwyddoldeb i鈥檞 lluniau di-rifedi,
wrth addoli gwaith dyn a gynganeddai feini.
Ac yn offeren ansicr y breichiau
synhwyrwn chwithdod fy mhobl innau
yn ymbalfalu am eiriau,
yn ceisio snapio teyrngedau.
O am gael naddu ystyr fel pensaer ein neuaddau,
pencerdd dyfnderoedd ein dyheadau
a grynhoai fydoedd mewn cwpled cymen,
a鈥檌 awdlau鈥檔 codi鈥檔 glochdyrau amgen.
Ond fe鈥檌 dathlwn, tra cerddwn ei gynteddau,
mae pob carreg yn sill yng ngweddi鈥檙 oesau.
Ifor ap Glyn
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ffeinal y Talwrn
-
CAERNARFON: Englyn - Gweithdy
Hyd: 00:12
-
Y GL脢R: Englyn - Gweithdy
Hyd: 00:15