Main content

Cerdd i Dryweryn gan Aneirin Karadog

Bardd y Mis, Aneirin Karadog yn darllen ei gerdd i nodi 50 mlynedd ers boddi Capel Celyn.

Cerdd Arall am Dryweryn

Fan hyn mae llyn llonydd
i鈥檙 llygad estron.
Fan hyn mae llyn llonydd
i鈥檙 llygad Cymreig.
Llyn arall yn y clytwaith sy鈥檔 harddu鈥檙
anialwch gwyrdd, tu hwnt i鈥檙 tai
yn y Wales o werth,
lle mae鈥檙 bunt yn goleuo鈥檙 dydd.

Efyrnwy. Elan. Epynt a鈥檌 lyn o waed鈥�

Ond fan hyn ein dafnau ni
fu鈥檔 cronni fesul litr:
Diferion o farddoniaeth
yn pwyso鈥檔 anesmwyth ar waelodion
ein cydwybod. Ffrydia ein dirywiad
fesul gair fan hyn.

Fan hyn, mae pob enaid alltud,
fan hyn, mae鈥檙 sawl a drodd ei gefn
a鈥檙 sawl a gaeodd ei lygaid
rhag gweld ein Aberhenfelen ein hunain.
Fan hyn, mae pawb a dorrodd ei dafod
a鈥檌 luchio ar fachyn ei wialen bysgota
yn abwyd i geisio cnoiad gan bysgod y byd bas.

Ond y dwfn du hwn yw鈥檙 llwfrdra fu鈥檔 cronni,
Eco鈥檙 Gymraeg sy鈥檔 crychu wyneb y d诺r a鈥檌 oerfel
yw鈥檙 croen g诺ydd o weld pentre arall yn mynd鈥�

Wrth i ni geisio鈥檙 tir sych rhwng llynnoedd
a cheisio peidio glwychu鈥檔 traed,
ein gwaith ni oll dan wawr arall
yw ceisio peidio a boddi
ac yna dysgu eraill sut i nofio,
rhag ofn鈥�

Aneirin Karadog 鈥� Bardd y Mis 鈥� Hydref 2015

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o