Tommo gan Idris Reynolds
TOMMO
鈥楧yw Beirdd y Mis ddim yn mynd ar Tommo,
Mae鈥檔 well 鈥榙a nhw鈥檙 Talwrn, Dei Tomos a Stiwdio.
鈥楧y鈥檔 nhw ddim yn awyddus gan fod yr awen
Yn rhy ddrwgdybus o gyflwynydd llawen.
Nid yw 鈥榳hare dwli yn rhoi llwyfan addas
Ar gyfer darllen campweithiau barddas.
Pwy all ddweud gwirioneddau鈥檔 deidi
Mewn mydr ac odl yng Nghwmr芒g Aberteifi ?
Amhosib barddoni yn iaith y Mwldan
Lle mae pob 鈥榝e鈥� yn 鈥榟i鈥�, a phob 鈥榟i鈥� yn fachan.
A 鈥榮dim pwynt poeni gydag odlau dwbwl
Pan fo鈥檙 Teifi Seid wedi dweud y cwbwl.
Fe 诺yr y beirdd beth ydyw perfformio
Ac adrodd cerddi lle bydd neb yn gwrando.
Mae angen rhywun 芒 llais gwahanol
I ganu c芒n sydd yn swyno鈥檙 bobol.
Gyda鈥檌 wresogrwydd a鈥檌 ateb parod
Mae Tommo鈥檔 llwyddo gan fod e鈥檔 gwybod
Fod gofyn am dipyn mwy na geirfa
I ennill calon ei gynulleidfa.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2017 - Idris Reynolds—Gwybodaeth
Idris Reynolds yw bardd Radio Cymru ar gyfer Chwefror 2017.
Mwy o glipiau Tommo
-
Tacsi Tommo gyda Thri Tenor Cymru
Hyd: 06:55
-
Tacsi Tommo gyda Dyfan Rees
Hyd: 10:45
-
Tacsi Tommo gyda Rhian Haf
Hyd: 10:32