Main content

Iola, Meic

Syrthiodd llen ar eleni
a鈥檌 chri鈥檔 oer, i鈥檔 dychryn ni
ag un clap: rhyw drap d么r hyll
adawodd y lle鈥檔 dywyll.
Llwyfan gwag: lle fu鈥檔 gwegian
gan sbri, a chwmni, a ch芒n;
heibio oll aethant bellach
a th芒n iaith, a chwerthin iach,
rhuo mawr, a鈥檙 dagrau m芒n
a鈥檙 lliw hefyd o鈥檙 llwyfan,
a ddoe, fel cwta ddwyawr
sydd ar ben: daeth llen i鈥檙 llawr.

Ddau hwyliog, a鈥檜 harddeliad
fynnai glust ar lwyfan gwlad,
a pharhau wna drama ffraeth
anadliad eu cenhedlaeth:
her i actio鈥檔 Cymreictod
o flaen neb oll; cyfleu鈥檔 bod
o鈥檜 calon. Astudio鈥檔 stad,
a morol am gymeriad.
Er y llen, mae鈥檙 ddau heno
yn rhoi 鈥榚ncore鈥� yn y co鈥�.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...