Nadolig Ddoe a Heddiw
Dyma be' hoffai o ei gael eleni i'w roi i'r fechan...
Dyma be hoffai o鈥檌 gael eleni
i鈥檞 roi i鈥檙 fechan. Hoffai roi iddi
gopi carbon o鈥檌 hen Nadoligau鈥檌 hun,
y rhai sy鈥檔 atalnodi鈥檌 blentyndod,
a鈥檙 cof yn euro鈥檙 cyfan fel haul isel.
Festri lawn. Pasiant plant ar ei anterth:
cybolfa abswrd o Teenage Mutant Hero Turtles,
llieiniau llestri dros lygaid, a鈥檙 Iesu
rywle鈥檔 ei chanol hi鈥檔 y gwair.
Adfyrt Yellow Pages ar y bocs eto fyth.
Pan oedd Quality Streets, mae o鈥檔 si诺r, yn fwy o faint,
pan oedd rhew yn rhew a gwynt yn wynt go iawn,
dim ond pedair sianel i fflicio rhyngddyn drwy鈥檙 pnawn,
a phunt yn drwm mewn poced. Pan gwn芒i coeden blastig
y tro yn champion, yn arogli fel atig
a thinsel yn addurn derbyniol amdani.
Amser 鈥� dyna a roddai, yn ei holl ogoniant
elastig, cyfnewidiol, wedi鈥檌 lapio鈥檔
ddel mewn rhubanau iddi gael
ei riweindio鈥檔 fl锚r fel hen VHS:
amser i鈥檞 rwygo ar agor, a鈥檌 daflu o鈥檙 neilltu
fel papur lapio. Mi ddalith o i drio,
flwyddyn ar 么l blwyddyn. Bron na allai o
alw鈥檙 eira鈥檌 hun i lawr yn blu o鈥檙 awyr.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Rhagfyr 2017 - Ll欧r Gwyn Lewis—Gwybodaeth
Ll欧r Gwyn Lewis yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagfyr 2017.
Mwy o glipiau Caryl Parry Jones
-
Ynyr Roberts - Swatia'n Dawel—Hwiangerddi
Hyd: 02:55
-
"Faux Pas" ffasiwn!!
Hyd: 03:21
-
Mewn neu mas?! Mas neu mewn!?
Hyd: 00:33
-
Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio Cymru
Hyd: 01:19