Main content

Siwmperi'r Nadolig

Diwrnod gwisgo Siwmperi Nadolig, elusen Achub y Plant, sy'n ysbrydoli Ll欧r Gwyn Lewis

Her dydd Gwener sy gen-i:
pa ryw deip yw'th siwmper di?
Sgen ti siwmper hipsteraidd
(byr iawn, mond jyst ffitio braidd)?
Oes rhyw foron eironig
gan dy dop, neu bengwin dig?
Rhyw wiail Fair-Isle ffyri'n
wl芒n i gyd, neu lun o gi?
Neu addas weu deunydd swil
y w锚r yn siwmper shimpil?

Ar ras ben bore'r es-i:
be sy i'w weld yn y 麻豆社?
Dod i hel ysbrydoliaeth,
dod yno i chwilio chwaeth鈥�

Un cracing sgan Kate Crockett:
dyn eira hardd dan ryw het.
Dylan Jones, yn dy lounge wear,
llun ydwyt sy'n llawn hyder,
ond s芒l wir, wrth dinsel-horwth
disco-retro Georgia Ruth.

Pwy'r ff诺l mewn jympyr a phans
yn tinclan? Ifan Evans.
Ac wir yr, darlun llawn grym
yw gweled Lisa Gwilym
ag un rad, 芒 gw锚n Rudolff
o gylch diemwntiau golff.

Drewi mae Tudur Owen
(rhoes bais croen gafr dros ei ben).
Ar flaen un Dyl: bauble bach,
a Garry? Llun dau gorrach,
a gwehyddbeth Geth a Ger
a weuwyd o wl芒n gwiwer.
Dwy bom pom sydd gan Tommo
fel nyth ar flaen ei un o.

Un Dei o hyd wnaed wedyn
mae'n rhaid, 芒 defaid ei hun.
Un rad, addurnwyd yn rhwydd
芒 chelyn ac uchelwydd
hynod sgen Gerallt Pennant
o hemp lwyd (mae'n dychryn plant).
Swagro a phar锚dio'n ffri'n
high-life mewn cashmere fflyffi
(ddoeth naddwaith, un wehyddwyd)
hyd y lle wna Dewi Llwyd,
ac wir, dyn gwell dan gardi
na Al Hughes, ni wela' i.

Ac er mai golwg wirion
tu hwnt sydd i'r giwed hon,
wrth chwarae, mi chwaraeant
ran i hel arian i'r plant.
Gwisgwn nhw, ac os gwnawn ni
fel Ger, fel Al a Garry,
Lisa G., Dewi, a Dyl,
ein siwmper sy'n esiampl.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau