Main content

Cadw鈥檔 Heini

Llion Roberts, bardd mis Ionawr 2018 sy'n addo cadw'n heini...

Cadw鈥檔 Heini

Dewch i wrando hyn o ganig
rof yn hael, fel rhoi calennig;
am addewid a wnaf 鈥檒eni,
un adduned wna鈥檌 mo鈥檌 thorri.

Llawn wyf i o sbrowts a thwrci,
llawn yw鈥檙 stumog o siocledi,
llawn o reiat y mis olaf,
mae fy melt mor dynn amdanaf.

Yn y wardrob, mae trowsusau,
yn y wardrob mae fy nghrysau
ers blynyddoedd mewn rhyw hirlwm,
roe鈥檔t yn ffitio鈥檙 bol ers talwm.

Daeth mis Ionawr, rhaid anghofio
am y cwrw a鈥檙 holl stwffio;
af i鈥檙 gampfa, ac ymorol
mod i鈥檔 myned yno鈥檔 ddyddiol.

Mynd a wnaf i gadw鈥檔 heini
er mwyn bod yn ail George Clooney;
talu am aelodaeth blwyddyn,
colli鈥檙 bol, cael gwasg fel llefnyn.

Cyrraedd gym, a gweld y mysls
(a鈥檓 rhai innau megis pimpls);
pawb mor dynn eu leotardiau,
bloneg sy鈥檔 fy nhracsiwt innau.

Trio鈥檙 beic, a chael fod seiclo鈥檔
boenus odiaeth, gwaeth na rhwyfo;
gallwn geisio codi pwysau
ond mae鈥檔 鈥檔afu fy nghyhyrau.

Llusgo draw at beiriant loncian
er mwyn rhedeg yn fy unfan,
ond r么l munud ar ei elltydd
rydwy鈥� angen coesau newydd.

Dyma syniad, beth am nofio,
byddaf leden luniaidd yno,
ond mae鈥檙 clorin yn fy llosgi 鈥�
af i orwedd i鈥檙 jacwsi.

Yn y sba, rwy鈥檔 ffit am oriau
yn gwaredu鈥檙 calor茂au,
wedi gadael caf fanana;
ond myn diain mae caffi鈥檔 fan鈥檔a.

Ionawr aeth, a daeth mis Chwefror,
gwag yw鈥檙 gym, a鈥檙 caff ar agor,
ond fe gadwaf i鈥檙 aelodaeth
rhag bydd hynny鈥檔 gwneud gwahaniaeth.

Felly hoff wrandawyr ffyddlon
hyn o gyngor rof yr awrhon,
peidiwch addo mynd i鈥檙 gampfa . . .
hyd nes daw mis Ionawr nesa鈥�.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o