Main content

Cerdd i Mam

Mam
Yn s诺n clician ei gweill diwyd
Lluniodd ddarluniau cain,
Llawn cysur.
Y pwythau gwastad yn dynn
A鈥檙 lliwiau鈥檔 cyfareddu.

Arafodd y gweill
A llaciodd y pwythau,
Cyn datod
O un i un.
Pylodd y lliwiau
Gan adael dim ond arlliw
O鈥檙 tanbeidrwydd a fu.

Ond heddiw,
A鈥檙 gweill mor dawel,
Mae鈥檙 darluniau eto
Yn llachar yn y cof.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...