4.7 awr bob dydd
Cerdd gan Gwennan Evans ar gyfer 'Detox Digidol'.
Gallwn fod wedi dysgu iaith.
Llythyru 芒 ffrind newydd a fyddai鈥檔 ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig.
Archebu baguette o鈥檙 boulangerie heb ymgynghori 芒 llyfr.
Chwerthin gyda鈥檙 brodorion
a chanmol eu c诺n 芒 hyder yn eu hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd
a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I really wish people would just say things to my face
a Some people really need to grow up.
Gallwn fod wedi tynnu鈥檙 beic o鈥檙 sied.
Dilyn fy nhrwyn a theimlo鈥檙 gwynt yn fy ngwallt.
Arogli鈥檙 tymhorau.
Colli sawl st么n.
Magu cyhyrau
a buddsoddi mewn leicra.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno 芒 chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i鈥檞 trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno鈥檙 ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn s诺 yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y t欧 cyfan.
Paentio鈥檙 waliau鈥檔 lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio鈥檙 llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn 么l.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna鈥檌 lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai鈥檔 RHAID i鈥檙 byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.