Main content

Odliadur Roygan Alan Llwyd

Cerdd i'r Odliadur gan Alan Llwyd.

Erbyn hyn y mae deugain haf 鈥�
er mor anodd yw credu hynny 鈥� ers i Brifwyl Caerdydd
ddathlu cyhoeddi dy lyfr;
deugain Awst wedi hen fynd heibio, fel Afon Taf
yn llifo heibio i鈥檞 hynt
o ddydd i ddydd, nes i heddiw droi鈥檔 flynyddoedd a ddoe;
llithro heibio mor ddiarwybod
ag amser ei hun.

Mae cynnwrf yr Awst hwnnw
yn fyw o hyd ynof fi:
llefarem ac anadlem odlau;
roedd odlau ymhobman, odlau, llond cae o odlau,
odlau yn crwydro ledled
maes yr 糯yl, gan rymuso鈥檙 iaith
wrth gryfhau a dyfnhau ein hawen.

Rhoist inni, yr Awst hwnnw,
ddigon o eiriau i odli 芒鈥檛h enw
fel y gallwn ddathlu dy gamp.

Beth, felly, sy鈥檔 odli 芒 Roy?

Paratoi:

Llafuriaist, paratoaist ti
odlau ar gyfer eraill,
a鈥檙 odlau yn ffin ac yn droedle,
yn oroesiad ymhob ymryson,
wrth i ni atgyfnerthu ein haith.
Darperaist eiriau parod
ar gyfer y beirdd, bob un.

Ymroi a rhoi:

Ymroi a wnaethost rhag marw o鈥檔 hiaith,
ymroi i roi i鈥檙 Gymraeg
ddigon o odlau am ddwy genhedlaeth,
o leiaf, Roy. Dy lyfr oedd
sail a chanllaw ein hawen
uwch seiliau a chanllawiau ein ll锚n;
dy lyfr odlau afradlon
ac ynddo ormodedd o odlau,
digon o odlau i feirdd dy genedl fod
yn un 芒鈥檙 traddodiad am byth.

Cyffroi:

Ar Awst yr 糯yl cyffroist yr iaith
i ganu 芒 hyder, wrth iti genhadu
o blaid y gynghanedd,
a pharhau a wnaeth y cyffro hwnnw o 糯yl
i 糯yl, ac er i鈥檙 tawelwch
digyffro dy hawlio di,
buost ti, bob Awst o haf,
yn rhan o鈥檙 cyffro hwnnw.

Ffoi:

Ffoaist ti i鈥檛h orffwys dwfn
yn rhy annhymig o lawer; er inni ymglywed
芒鈥檛h lais, distewaist ti
yn rhy gynnar i ganu
dy g芒n dy hun, er bod gennyt
fwy o odlau na鈥檙 un o鈥檙 gl锚r
ar gyfer y gwaith.

Troi:

Trist oedd fel y troaist ti
oddi wrthym mor warthus o gynnar;
troi o鈥檔 plith cyn trin plethiad
y gynghanedd ymhellach;
troi, cyn i ti 芒鈥檙 awen
gyflawni dim, ac ail gyfle nid oedd.

Cloi:

Mae鈥檙 Eisteddfod yn dod i Gaerdydd
eto eleni, a bydd creu telyneg,
a bydd eto lunio englynion,
ac yno y byddi di
yn ymarhous ymhob ymryson
yn ateb y tasgau eto
o linell i linell, yn cloi englynion
y beirdd, er dy fod, bob Awst,
mor oesol ddiymryson.

Rwyt ti, er hynny, wedi cymryd rhan
ymhob ymryson ym mhabell
y beirdd, er cadw mor bell
ers bron i ddeng mlynedd ar hugain;
a bydd gennyt eleni eto
linell neu ddwy yn englynion
y beirdd, a bydd dy lyfr odlau
yn cau ein llinellau ni
ac yn cwblhau ein cywyddau a鈥檔 hawdlau o hyd,
gan barhau yr hyn a ddechreuaist
un Awst ddeugain mlynedd yn 么l.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o