Baled y Gyrrwr Anghofus
Baled y Gyrrwr Anghofus gan Lyn Ebenezer - Bardd y Mis
BALED Y GYRRWR ANGHOFUS
Closiwch yn nes, gyfeillion
I wrando arnai鈥檙 awrhon
Yn adrodd hanes un na aeth
Yn gaeth i f芒n ofynion.
Wylo a wnawn ein gwala
Dros Tomos Hafod-fila
A aeth drwy gysgod oer y glyn
鈥楻么l boddi鈥檔 Llyn Y Bala.
Yn bedwar ugain union,
Cyhoeddi wnaeth y gwron
Y mynnai ddysgu gyrru car
Hyd briffyrdd tar anunion.
Fe brynodd felly Ffordyn
Yn rhad wrth rhyw hen lordyn;
Yr oll 芒鈥檌 cadwai rhag y saint
Oedd cot o baent a chordyn.
鈥楻h锚n Morgan Lloyd y Sgweier
Oedd yr egspiriensd dreifer,
脗i gyda Tomos bob dydd Iau,
Gorchwyl a wn芒i am ffeifer.
Mewn car fel ar gefn tractor,
Er gwylio pob Fferm Ffactor,
Un gwael oedd Tomos, ie wir,
Am wasgu鈥檙 indic锚tor.
Ei esgus gwan dros beidio
Cyflawni鈥檙 cyfryw osgo
Oedd, 鈥楳usnes i yw ble dwi鈥檔 mynd,
Fy ffrind, os na chi鈥檔 meindio.鈥�
Perswadiwyd ef gan Morgan
Y dylai newid anian
Gan gofio gwasgu鈥檙 botwm troi
Yn glir, yn gloi a buan.
Ar ddydd y prawf, sef drennydd
I 糯yl yr Hen Ddihenydd,
Aeth Tomos gyda Morgan Lloyd
I鈥檞 oed yn Sir Feirionnydd.
Fe deimlai鈥檔 ddigon smala
O gyrraedd tref Y Bala,
Ond am y testyr yn sedd Moc,
Roedd cnoc bach yn ei fola.
Fe aeth y prawf yn syndod,
A Tomos gadd ollyngdod,
Ond o fewn dim i ben y daith
Fe aeth yn annibendod.
Gan iddo lwyr anghofio
Y dylai indic锚to,
Fe hitiwyd Tomos o鈥檙 tu 么l
Gan Focsol Sais o鈥檙 Bermo.
Neidiodd y testyr allan -
Un chwimwth oedd y bachan -
Hedfanodd Tomos drwy鈥檙 sgr卯n wynt,
A hynny鈥檔 gynt na Batman.
Mae鈥檙 hanes trist i鈥檞 weled
Yn gymen ar ffurf baled
Ar wyneb marmor carreg fedd
Yn hyfryd hedd Uwchaled:
Yma y ceir gweddillion
Un aeth i鈥檞 fedd yn brydlon,
Gwasgodd yn gywir glytsh a br锚c,
Ond un mist锚c fu鈥檔 ddigon.
Tomos, yn ddianghenraid
Foddodd ymhlith y gwyniaid;
Ond boed ei enaid heddiw鈥檔 wych
A sych rhwng gl芒n seraffiaid.
Rhybuddiaf felly bobun
Sy鈥檔 droed-trwm ar ei sbardun,
Gochelwch oll rhag dioddef l么s
Tomos yr anghredadun.
Arwr di-arddangosiad
Aeth tua鈥檌 atgyfodiad
Hyd l么n un-ffordd heb arwydd STOP
Na鈥檙 un sb卯d cop na throad.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mehefin 2018 - Lyn Ebenezer—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Mehefin 2018 yw Lyn Ebenezer.