Papur Wal - cerdd gan Fardd y Mis - Iwan Huws
Papur wal
鈥橬athon ni symud t欧,
y tri ohonom ni,
a chyfaddawdu
o ran beth i鈥檞 gadw
o dy bethau di,
fy mhethau i,
a phethau鈥檙 babi.
Ac wedyn, eu gosod yn daclus,
hyd y gallwn ni wneud hynny,
mewn lle lle鈥檙 oedd eraill wedi bod cyn ni.
Ac yn y man lle fydda i鈥檔 gwneud paned,
mae 鈥檔a rywun arall yn ei hyfed,
yn sefyll yno hefyd,
yn fy nirnad i ar ben eu byd,
gan deimlo, yn eu stafell wely,
dy luniau di,
a lle鈥檙 oedd eu t诺ls yn hongian o鈥檙 to,
r诺an 鈥� fy rhai i yno,
a Now鈥檔 gosod ei deganau,
yma, ac acw, hyd y lloriau,
yn annwyl ac yn fl锚r,
a dan draed hyd sawl llinell amser.
Tybed os oedden nhw鈥檔 addasu鈥檜 cam
wrth fynd i鈥檙 gegin, neu鈥檔 gwasgu
trwy鈥檙 cyntedd i osgoi鈥檙 pram?
Tybed os ydw i鈥檔 gwneud r诺an?
Yn gwyro 鈥檔ghwrs, neu鈥檔 sb茂o鈥檔 flin
i gyfeiriad llun a fydd uwch y lle t芒n.
Achos mae haenau paent a phapur wal
yn parhau am byth, heb bylu,
hyd yn oed o鈥檜 rhwygo lawr,
eu darnio a鈥檜 malu,
mae nhw鈥檔 aros, er hynny,
fel y dwylo a fu wrthi鈥檔 ddiwyd
yn gosod eu bywydau ar y byd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2019 - Iwan Huws—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymrua r gyfer mis Mai 2019 yw Iwan Huws.