Y Gofid gan Emyr Davies
Y Gofid
Mae e鈥檔 gyfnod od o hyd
A鈥檙 haf yn bryder hefyd;
Ei foreau鈥檔 afreal
A phob trefn drachefn ar chw芒l.
Ymbellhau; ac ambell un
Yn ymdopi am dipyn,
Yn gweld anwyliaid heb gwrdd
Yng nghyffion sgrin anghyffwrdd.
Ar yr hewl at yr aelwyd
Y daw鈥檙 fan 芒鈥檌 st么r o fwyd:
Nhw yw sgwad y sgwrs-a-gw锚n 鈥�
I eiddilwch yn ddolen;
Rhai dinod, rhai dienw
Y byddai鈥檔 od hebddyn nhw,
O d欧 i d欧 eto鈥檔 dod
Gan nac谩u ofnau鈥檙 cyfnod.
Rhaid diolch i鈥檙 rhai diwyd
Am eu gwaith drwy鈥檙 storm i gyd,
A gwn yn iawn yr awn ni
Ymlaen drwy storm eleni.
Mae鈥檔 anochel dychwelyd
I allu byw mewn gwell byd,
A daw鈥檙 adar byddarol
脗鈥檙 haf yn araf yn 么l.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03