Main content

Cywydd o Fawl - Capten Huws y Niws!

Aled Hughes yn Rhwyfor鈥檙 Llynnoedd
(Her Plant mewn Angen 2020)

Mae capten uwch y Fenai 鈥�
Hughes y News yw hwn, 鈥楢ye, aye!鈥�
yn morio llynnoedd mawrion
pedwar ban o鈥檙 unfan hon;
ar ei long yn rhwyfo鈥檙 lan,
rhwyfo heb fynd o鈥檙 hafan.

Mae Hughes y News yn ei ing
yn stalwart fel Grace Darling,
Steve Redgrave, Ben Hur hefyd,
Huw Puw a Popeye o hyd;
rhwyfwr yw ar dir ei fro,
y Madog nad yw鈥檔 mudo!

Dros y Gl么b yn llawn gobaith,
ar ei din mae鈥檔 mynd ar daith,
yn llywio o bell i well byd,
Columbus ein Clo enbyd.
Dros Blant mewn Angen 鈥檒eni,
Huws y News yw鈥檔 capten ni.

Ceri Wyn Jones (12.11.20)

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud