Main content

Ceri Wyn Jones - Bardd y Mis - mis Tachwedd

Cowbois ac Indians

Plentyndod ofnadwy o boring ges i
heb Xbox, na Netflix na chwaith Es-ff么r-s卯;
plentyndod tair-sianel y bocs du-a-gwyn,
plentyndod y perci yng ngh么l Pen-y-bryn.

Plentyndod Blue Peter ac ofn Doctor Who,
plentyndod o fynd ar fy meic nefi-bl诺,
ac esgus fy mod i yn gwasgu y clytsh
mewn Ford Gran Torino fel Starsky a Hutch.

Plentyndod o gapel a chico p锚l, glei,
o ddysgu fy adnod cyn Match of the Day,
a chwarae g锚m Germans a British o hyd,
neu Cowbois ac Indians, yn gynnen i gyd.

Er nad yw plentyndod fy meibion 芒鈥檜 sgr卯n
yn debyg i hynny, mae鈥檙 gemau yr un,
sef ymladd, anturio a saethu ar ras 鈥�
er mwyn bod yn llwyddiant, mae鈥檔 rhaid bod yn gas.

鈥橰un modd, sdim 鈥檇i newid ym Mhrydain, dim byd,
mae rhai鈥檔 chwarae Germans a British o hyd;
a draw yn y States y mae rhai鈥檔 gweld y byd
fel brwydyr rhwng Cowbois ac Indians o hyd.

Ceri Wyn Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o