Main content

Cerdd "Vok Fab Neb, a'i fab yntau, Tenavik" - Star Trek

Sara Louise Wheeler, Bardd y Mis, Ionawr, a'i cherdd ar thema Star Trek a chyflwr geneteg Syndrom Waardenburg math 1.

"Voq 鈥楩ab Neb鈥�, a鈥檌 fab yntau, Tenavik"

I ymerodraeth y rhyfelwyr, ac i ganol y ffrae efo Starfleet,
daeth Klingon wedi ei alltudio gan ei 鈥榙欧鈥� a鈥檌 deulu,
oherwydd ei fod e鈥檔 brin o felanin; Voq 鈥楩ab Neb鈥�, y mae鈥檔 galw ei hun.

Ac wrth i rai ohonom ddal ein hanadl, gan ofni鈥檙 thema gyfarwydd o鈥檙 鈥榓lbino drygionus鈥�,
sydd mor gyffredin mewn sgriptiau anofalus 鈥�
mi wnaeth ef a鈥檌 fab herio鈥檙 syniad ein bod ni, y dad-bigmentiedig a difreintiedig,
hefyd 芒 rhyw brinder sylfaenol foesol 鈥� rhyw nam di-baid ar yr enaid;
buddugoliaeth fach i unigolion ac ysgolheigion
liwcistiaeth ac albiniaeth, yw鈥檙 portread positif hwn.

Mae鈥檔 disgwyl yn addawys, achos yn groes i鈥檙 drefn maent yn weddus,
a鈥檜 cymhelliant yn ddiffuant, er gwaethaf yr agweddau dirmygus tuag atynt.
Ac er bod Voq bellach yn Sto-vo-kor, a Tenavik 鈥檔awr yn fynach ar blaned Boreth,
mae eu bodolaeth ym mydysawd ailwampiad Star Trek,
yn un symbolaidd a phwerus, a ddaw 芒鈥檙 rhempian anffodus i ben.

Ymuno鈥檔 nhw ag Addison, Elsa a Khaleesi - cyn iddi losgi pawb 芒鈥檌 draig.
Ac ella felly cawn osgoi cwsg-gerdded mewn i ewgeneg,
gan dderbyn yn hytrach na dileu'r rheini, sydd 芒 mwtaniad genetig,
sy鈥檔 peri iddynt fod y tu hwnt i gyrf normalrwydd.

Cawn ni rannu鈥檙 hen fyd 鈥榤a tybed? Pawb 芒鈥檙 hawl i fyw a bod, i fodoli ac i ffynnu;
daw鈥檙 doethineb o bob cwr 鈥� gan gynnwys cilfach llinyn-stori.

Dr Sara Louise Wheeler

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o