Main content

Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021

Steffan Cennydd, Marian Brosschot, ci Llion Thomas, a hanes priodas Aeron Pughe

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥�

Steffan Cennydd
Os oeddech chi鈥檔 un o鈥檙 miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi鈥檔 cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma

Mwya llwyddiannus - Most successful

Golygfa - Scene

Gyferbyn 芒 - Opposite to

Mae鈥檔 fyd enwog - He鈥檚 world famous

Egni - Energy

Rhwydd - Hawdd

Derwen - Oak

Marian Brosschot
Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e鈥檔 amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi鈥檔 rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith鈥�

Iseldireg - Dutch

Daneg - Danish

Ystyr dyfnach - A deeper meaning

Arwynebol - Superficial

Llythrennol - Literal

Trwytho - To saturate

Dywediadau - Sayings

Chdi - Ti

Wsos - Wythnos

Ynganiad - Pronunciation

Am w鈥檔 i - As far as I know

Jonathan Simcock
Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi 芒鈥檙 cyfnod clo鈥�

Ymdopi - To cope

Arferol - Usual

Tu hwnt - Beyond

Ymhlith - Amongst

Alltud - Exiled

Cerdd - Poem

Offeryn - Instrument

Cymunedol - Community

Llawen - Merry

Llion Thomas
Felly os dych chi鈥檔 barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch 芒 Jonathon Simcock, dw i鈥檔 si诺r basai鈥檔 falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys M么n gi talentog iawn o鈥檙 new Max 鈥� fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener鈥�

Dallt - Deall

Sillafu - To spell

Cawn ni weld - We鈥檒l see

Aballu - And so on

Gwenith Evans
Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby 鈥� Llion rhaid i chi gysylltu 芒 Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi鈥檔 gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn 么l ond erbyn hyn mae hi鈥檔 byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi鈥檔 s么n ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig鈥�

Ffodus - Fortunate

Eitha clou - Quite quickly

Llond llaw - Handful

Dihunais i - Wnes i ddeffro

Rhyddid - Freedom

Ffaelu - Methu

Sa i鈥檔 si诺r - Dw i ddim yn si诺r

Aeron Pughe
Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan鈥檔a ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn 么l yr hanesion glywon ni ar Troi鈥檙 Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e鈥�

Drygioni - Mischief

Gwas priodas - Best man

Cwmpodd y goeden - The tree fell

Llanast - Mess

Budreddi - Dirt

Yn enedigol o - A native of

Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep

Traddodiad - Tradition

Rhaffau - Ropes

Groes yr heol - Ar draws y ffordd

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad