Pigion y Dysgwyr 14eg Mai 2021
Maxine Hughes, cwmni byrgyrs Ansh, Dafydd Iwan, a be ydy swydd archeolegydd morol?
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥�
DDIM YN DDU A GWYN
Mae dinas Minneapolis wedi bod yn y newyddion yn y misoedd diwetha gan mai dyna lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan Derek Chauvin, oedd yn swyddog heddlu ar y pryd. Buodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn. Mae Maxine yn dod o Gonwy yn wreiddiol ond yn byw yn Washington DC erbyn hyn, a dyma hi鈥檔 cael sgwrs gyda Gerallt Jones sy鈥檔 byw yn Minneapolis...
Achos llys - Court hearing
Llofruddio - Murder
O dan sylw - Under attention
Llinyn amser - Timeline
Protestiadau chwyrn - Fierce protests
Euogrwydd - Guilt
Anghydraddoldeb hiliol - Racial inequality
Carfan - A faction
Mynychu - To attend
Cyfryngau - Media
TROI鈥橰 TIR
Dau o Gymry America yn fan鈥檔a yn rhoi syniad i ni o fywyd Minneapolis yn dilyn marwolaeth George Floyd. Mae cwmni byrgyrs 鈥楢nsh鈥� yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddyn nhw agor ger Victoria Parc yn Nhreganna y llynedd. Dyma hanes Aled o鈥檙 Rhondda a Sion o Lanbedr Pont Steffan adawodd eu swyddi blaenorol i ddechrau eu busnes byrgyrs newydd.
Blaenorol - Former
Cigydd - Butcher
Cynnyrch - Produce
Awyddus - Eager
Diwylliant - Culture
Clymu mewn - To tie in
DEI TOMOS
...stori dda arall ar Troi Tir yn fan鈥檔a a phob lwc i鈥檙 ddau gyda鈥檜 busnes newydd on鈥檇 ife? Mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn enwog am ei ganeuon, ond roedd Dei Tom yn awyddus i siarad gyda fe am ei lyfr newydd sy鈥檔 s么n am hanes rhai o鈥檙 caneuon hynny. Gofynnodd Dei iddo fe pwy oedd wedi dylanwadu mwya arno fe o ran cyfansoddi caneuon...
Dylanwadu - To Influence
Cyfansoddi - To compose
Ein hoes ni - In our time
Teimladau cymysg - Mixed feelings
Traddodiad canu gwleidyddol - A tradition of political singing
Tueddfryd - A tendency
Y dirwasgiad - The depression
Buddsoddi - To invest
Cyni - Adversity
Arwr - Hero
Uniongyrchol - Direct
BETI A鈥橧 PHOBL
Dafydd Iwan oedd hwnna鈥檔 s么n am ddylanwad Woodie Guthrie ar ei ganeuon.
Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y ddawnswraig Jen Angharad, a gofynnodd Beti iddi hi sut wnaeth hi gwrdd 芒鈥橧 phartner Zayn, a hynny dros 30 mlynedd yn 么l....
Ble gwrddoch chi? - Lle wnaethoch chi gyfarfod?
Digwydd bod - As it happens
Sylweddoli - To realise
Gweinyddu - Administrating
Pam lai? - Why not?
Y dechreuad - The beginning
DROS GINIO
Wedi meddwl, mae cabaits a the yn swnio bach yn od on鈥檇 yw e? Mae Lowri Roberts sy鈥檔 byw yn Gaersallog, neu Salisbury, yn gweithio fel archeolegydd morol, ond beth yn union mae hynny鈥檔 ei olygu? Vaughan Roderick fuodd yn ei holi ar Dros Ginio鈥�
Henebion - Antiquities
Yn cynnwys - Including
Llongdrylliadau - Shipwrecks
Dyfnderoedd - Depths
Taid - Tad-cu
Bedyddio - To baptise
Wedi eu claddu - Buried
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
