Main content

Pigion y Dysgwyr 2il Gorffennaf 2021

Myrddin ap Dafydd, Sion Hughes, Gav Murphy, a dysgu Cymraeg mewn naw mis

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥�

GERAINT LLOYD
鈥ae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi鈥檔 dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu鈥檙 iaith鈥�

Safon - Standard

Anghredadwy - Unbelievable

Ysbrydoliaeth - Inspiration

Yn falch - Proud

Is-deitlau - Subtitles

Cyfnod Allweddol - Key Stage

Drysau - Doors

Diwylliant - Culture

Cyfrifol - Responsible

Trosglwyddo鈥檙 iaith - Transferring the language

Y genedlaeth nesaf - The next generation

CATRIN ANGHARAD
Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on鈥檇 yw hi? Mae Catrin Angharad yn 么l ar Radio Cymru ar b鈥檔awniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi鈥檔 rhoi cliwiau i鈥檙 gwrandawyr ddyfalu ble mae鈥檙 鈥榗erddwr cudd鈥� am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Brynach, a storm. Nawr 鈥榯e mae Sant Brynach gyda chysylltiad ag ardal Trefdraeth yn Sir Benfro, tybed ydy hwnnw鈥檔 gliw da, a thybed pwy oedd y cerddwr cudd?

Cerddwr cudd - Secret Walker

Dyfalu - To guess

Yn wirioneddol - Truly

Rhaid i mi gyfaddef - I must admit

(Nid) nepell - Ddim yn bell

Tewhau - To fatten

Mas o dymor - Out of season

Hamddenol - Leisurely

Mewn dyfynodau - In quotation marks

TRYSTAN AC EMMA
Catrin Angharad oedd honna鈥檔 siarad gyda鈥檙 cerddwr cudd, ac on鈥檇 yw hi鈥檔 drueni mawr mai dim ond un siaradwr Cymraeg sy鈥檔 byw yn y pentre bach hyfryd hwnnw erbyn hyn? Dych chi鈥檔 yrrwr da a gofalus? Byddwch yn onest nawr! Wel, cafodd Trystan ac Emma air gyda鈥檙 hyfforddwr gyrru Iwan Williams i glywed pa mor dda ydy pobl Cymru gyda鈥檌 sgiliau gyrru鈥�

Llawlyfr - Handbook

Hanfodol - Essential

Cadw rheolaeth - Keeping control

Derbyniol - Acceptable

Gaethon nhw wared ar - They got rid of

Cyflwyno - To introduce

LISA ANGHARAD
Wel mae鈥檙 prawf gyrru wedi newid dros y blynyddoedd on鈥檇 yw e?
Lisa Angharad oedd yn cyflwyno y Sioe Sadwrn yr wythnos hon a gofynnodd Trystan ab Owen iddi hi am ei diddordeb mewn planhigion, achos roedd gyda fe stori FAWR i鈥檞 dweud am brynu planhigion...

Cyn lleied - So little

Yn gyffredinol - Generally

ALED HUGHES
Wel yn wir, mae mwy o arian nag o synnwyr cyffredin gydag ambell un on鈥檇 oes?
Pan oedd Aled Hughes a Gav Murphy yn eu harddegau roedden nhw wrth eu boddau gyda gemau fideo. Buodd y ddau鈥檔 cael hwyl yn trafod gemau fideo retro yr 80 au a鈥檙 90au ar raglen Aled, a dyma i chi eu barn ar un o gemau鈥檙 80au 鈥� y Pac-Man

O鈥檆h chi heb weld - You hadn鈥檛 seen

STIWDIO
Dydy Aled a Gav ddim yn ffans mawr o Pac-man felly! Yr wythnos yma ar Stwidio buodd Nia Roberts yn trafod ffuglen hanesyddol gyda dau awdur sef Sion Hughes a Myrddin ap Dafydd. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ffuglen hanesyddol - Historical fiction

Wastad - Always

鈥榥haid - 鈥榥had-cu

O鈥檔 cwmpas ni - Around us

Penodau - Chapters

Annisgwyl - Unexpected

Beth sy鈥檔 fy nharo i - What strikes me

Yr ymchwil anorfod - The unavoidable research

Y chwilota - The searching

Cyffwrdd - To touch

Y cyffro cychwynnol - The initial excitement

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Podlediad