Cerdd Bardd y Mis Derec Llwyd Morgan am atgofion hafau plentyndod.
Cerdd Bardd y Mis Derec Llwyd Morgan am atgofion hafau plentyndod.
GLAW TYRFE YN YR HAF
Fy Wncwl Tom Pumsaint ydoedd i mi,
Gŵr Anti Lou, a ffynhonnell pob sbri.
Casglu wyau y byddai, ddydd Llun i ddydd Iau,
Rownd ffermydd yr ardal, a minnau’n mwynhau
Bythefnos bob haf cael mynd gydag ef
Yng ngaban ei lori i brofi ei nef.
Ei lori fach goch a’i tharpawlin gwyrdd
A’n cariai ni beunydd ar hyd y mân ffyrdd
Sy’n igam-ogamu gogledd Shir Gâr,
Y wlad odidocaf, laswyrddaf, wâr
Sy yng Nghymru i gyd: Llansawel D.J.
A Mali Pantycelyn (ei briod e),
Gwerogle, Ffald-y-brenin, Farmers (sbo),
Llidiard Nennog a Rhydycymerau dro.
Galw mewn ffermydd, rhyw ddwsin bob dydd,
Wncwl Tom ymhobman yn sgwrsio’n rhydd
Ac yn bragan fod ganddo nai a oedd
Mewn eisteddfodau yn adrodd ar goedd
Yn ddigon da i fod yn bregethwr chwap:
(Byddai hyn bryd hynny’n bluen mewn cap).
Bara a chaws oedd ein cinio’n ddi-ffael:
Arhosem mewn tŷ tafarn beunydd i’w gael,
Lle gofynnai Wncwl Tom yn ei ffordd ffwr-bwt,
“Peint, Pegi, i mi, a glaw tyrfe i’r crwt.â€
Oherwydd hyn, bellach gŵyr pawb ar led
Taw ‘glaw tyrfe’ yw’r Gymrâg am lemonêd.