Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021
Cantorion, ceffylau, a sut i wella'r system imiwnedd.
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥�
COFIO
Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio鈥檙 byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...
Gw芒dd To invite
Yn ddigalon Trist
Anadlu To breathe
Peswch A cough
Wyddoch chi You know
BORE COTHI
Cantores arall sy鈥檔 gorfod teithio鈥檙 byd yw Rhian Lois a buodd hi鈥檔 sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi鈥檔 trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?
Synhwyrau Senses
Arogl A smell
Bant I ffwrdd
Llanw fy nghalon i Fills my heart
Croten Merch fach
Mam-gu Nain
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Y gantores Rhian Lois oedd honna yn s么n am ei merch fach Elsi.
Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a鈥檙 system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna鈥檔 siarad gyda Ellie Armstrong o鈥檙 cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae鈥檙 diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd.
Ymateb Response
Hynod o lwyddiannus Extremely successful
Llaeth gafr Goat鈥檚 milk
Llys-fam Stepmother
Tawlu Taflu
Cyflyrau croen Skin conditions
Eitha tost Quite ill
ALED HUGHES
Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn 么l gyda鈥檌 g诺r, Scott Griffiths, sy鈥檔 dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau鈥檙 cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed?
Adnoddau Resources
Bodolaeth Existence
IFAN EVANS
Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan鈥檔a ar 么l dim ond dwy flynedd yn dysgu鈥檙 iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda鈥檙 鈥榖oy band 鈥� Cymraeg Mega. Mae e yn 么l yn perfformio nawr yn rhan o鈥檙 gr诺p newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega?
Hyn a llall This and that
Dim mor ff么l a hynny Not that bad
Profiadau Experiences
Cyfoethogi To enrich
Gwerth chweil Worthwhile
Cynhyrchydd Producer
St诺r A row
BETI A鈥橧 PHOBL
Marc Skone oedd hwnna鈥檔 s么n am ei fand newydd Halo Cariad. Mae鈥檙 ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae鈥檙 ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o鈥檙 enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn...
Buddsoddi To invest
Cyfarwyddwr Director
Adolygu To review
Crynhoi To summarise
Cynulleidfa Audience
Adloniant Entertainment
Cynhesrwydd Warmth
Llafar Vocal
Rhyngwladol International
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
