Main content

Sion Aled Owen Bardd Mis Hydref - Cerdd ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Dathliad

Ar Ddydd Cenedlaethol Barddoniaeth
dyma fi鈥檔 meddwl:
pryd ges innau 鈥檔geni鈥檔 fardd?

Ai wrth ddiflasu鈥檔 llwyr ar adrodd ac ailadrodd ryw hen stori
am dedi鈥檔 hedfan mewn bal诺n
yn nosbarth y babis?
Oeddwn i鈥檔 trio dweud fy nweud
bryd hynny
heb g锚r y geiriau?

Neu fallai yng ngwersi cyffrous
鈥榠ntensive writing鈥� Mrs Pari-Jones yn David Hughes?
Bardd yr iaith fain fyddwn gynta鈥� felly.

Ond tybed mai Mr Arwel Jones,
yr athro Cymraeg roedd gas ganddo 鈥榃elsh鈥�,
a gamodd i swydd y fydwraig
wrth ddatgloi dirgelion y gynghanedd yn Fform Ff么r?
Ynte a arhosais yn y groth ryddieithol, wir,
hyd ddyddiau creadigol chwil
y Gelli Aur,
ac Iwan Llwyd, Wil Garn ac Emyr Lewis
yn frodyr yn y feithrinfa?

Wn i ddim.
Felly waeth i heddiw fod
i minnau鈥檔 ddydd fy nathlu
ac yn ddydd pen-blwydd barddoniaeth i ni oll.
Cyfarchion y gerdd i bawb.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud