Main content

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

Nia Roberts, Rali'r Byd a Tom Hanks!

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥︹��

SIWRNA SIONED

Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o鈥檙 clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd 芒鈥檙 un clefyd. Dyma hi鈥檔 sgwrsio gydag Aled Hughes鈥�

Clefyd Disease

Ymlaen llaw Before hand

Iesgob! Goodness!

Sylweddoli To realise

Cryfder Strength

Magwraeth Upbringing

Ymchwil Research

Triniaeth iach芒d A cure

Ymwybyddiaeth Awareness

Cyfryngau cymdeithasol Social media

SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN

Ie, fel d鈥檞edodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan鈥檔a wrth drafod ei phrofiadau hi o鈥檙 clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e鈥檔 s么n am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe鈥檔 dweud yr hanes鈥�

Dewr Brave

Cyfweld To interview

Rhes A row

Anhygoel Incredible

Yn llythrennol Literally

Tueddiad ofnadwy An awful terndency

GERAINT LLOYD

Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks.
Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda鈥檙 gyrrwr ralio Elfyn Evans ar 么l iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf.

Ffindir Finland

Cymal Stage (of race)

Heriol Challenging

Yn fwy diweddar More recently

O鈥檙 cychwyn cynta From the very start

Ychydig o fantais A slight advantage

Yn dywyllach darker

Gwastad Level

Tymheredd Temperature

Cyn ised 芒 As low as

BETI A鈥橧 PHOBL

Ac mae hi鈥檔 dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe.
Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn s么n am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi鈥檔 ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn 么l i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu鈥�

Pencampwriaeth Championship

Ifancach Fengach

Wastad Always

Bwrlwm Buzz

Am gyfnod For a period

Cydnabyddiaeth Acknowledgment

Eithriadau Exceptions

Broydd Region

Yn fwy cyffredin More prevalent

Faswn i鈥檔 tybio I鈥檇 imagine

DEWI LLWYD

Sioned Llywelyn Williams oedd honna鈥檔 falch iawn o fod yn 么l yn Llanuwchllyn.
Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts.
Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glynd诺r mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma鈥�

Clyweliad Audition

Cyfarwyddwr Director

Hogiau Bechgyn

Diarth (dieithr) Strange

Cynhyrchu To produce

Trafodaeth A discussion

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad