Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021
Drama ddigidol, bardd o Delhi Newydd, a 'Dysgwr y Flwyddyn 2021'
CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA
Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar 么l iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu c芒n boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae鈥檔 gobeithio cryfhau鈥檙 cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi鈥檔 esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg
Bardd Poet
Cymrawd Fellow
Cwympo mewn cariad To fall in love
Mwyaf rhyfeddol Most amazing
Y gynghanedd Welsh metrical alliteration
Yn gysylltiedig 芒 barddoriaeth Connected to poetry
Led-led y wlad Throughout the country
Gweithdy Workshop
Sylweddoli To realise
Cenhadon Missionaries
GWNEUD BYWYD YN HAWS 鈥� ROB LISLE A DAVID THOMAS
Mohini Gupta oedd honna鈥檔 s么n am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e鈥檔 esbonio wrth Hanna sut mae e鈥檔 mynd o鈥檌 chwmpas hi...
Mynd o鈥檌 chwmpas hi To go about it
Dipyn o gamp Quite an achievment
Cymryd yn ganiataol To take for granted
Canolbwyntio Concentrating
Ystyried Considering
Gwybodaeth gyffredinol General information
Mo鈥檡n Eisiau
BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER
Mae鈥檔 wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i鈥檙 rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn fuan ar 么l ei dysgu ydy鈥檙 actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn 鈥楨nfys鈥� drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni鈥檙 hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi鈥�
Dwys Intensive
Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council
Llawrydd Freelance
GERAINT LLOYD 鈥� JAMES HORNE
Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on鈥檇 ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi 鈥榙ysgwr y dydd鈥� ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy鈥檔 astudio ym Mhrifysgol Bangor o鈥檙 enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe.
Cwrs TAR PGCE course
Parhau To continue
Hedfan Flying
Cwrs Calan New Year鈥檚 course
GERAINT LLOYD 鈥� ELISABETH HALIJAS
Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy鈥檔 dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn 鈥� dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith.
Defnyddiol Useful
Ymgynghoriad Consultation
Gwirfoddoli To volunteer
BETI GEORGE 鈥� GRANT PEISLEY
Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on鈥檇 ife? Ac mae鈥檔 wych ei bod hi, sy鈥檔 dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i鈥檞 chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e鈥檔 hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu鈥�.
Hynafiaid Ancestors
Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners
Go iawn Really
Cyswllt Connection
Ieuengaf Fenga/ifanca
Cyfnitherod Female Cousins
Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd 芒 ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi鈥檔 byw, o ble bynnag dych chi鈥檔 dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i鈥檔 si诺r, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o鈥檆h cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
