Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021

Gwerthu ar y We, Wynne Davies, Paula Roberts. Taid a Fi a chynghorion tyfu planhigion.

1. Dei Tomos 鈥� Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green

Mae鈥檙 nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i鈥檙 Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu鈥檙 nofel i鈥檙 Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara鈥檔 s么n am rai o鈥檙 problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia

Diwylliannol Cultural

Her A challenge

Dealledig Understood

Ariannin Argentina

Addasu To modify

T欧 Gwydr T欧 haul/conservatory

Cyffredin Common

Osgoi To avoid

Y golygoddion The editors

Penodol Specific

2. BORE COTHI 鈥� Naomi Saunders, planhigion y t欧 dros y gaeaf

Fasai t欧 gwydr, neu d欧 haul, yn help i gadw planhigion t欧 yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny鈥檔 dibynnu ar y t欧 ac ar pa mor gynnes ydy hi yn 么l Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion t欧 gyda Shan Cothi鈥�

Dyfrio To water

Gor-ddyfrio Overwatering

Canolbwyntio To concentrate

Oes tad Yes indeed

Amsugno To absorb

Dyfnder Depth

Gadael iddyn nhw fod To let them be

Goleuni Light

Tymheredd cyson Constant temperature

Rheiddiadur Radiator

3. Gwneud Bywyd yn Haws 鈥� Teleri James Jones

Digon, ond nid gormod o dd诺r felly i gadw鈥檔 planhigion t欧 yn fyw ac yn iach dros fisoedd y gaeaf, dyna gyngor Naomi Saunders i ni. Cynghorion ar sut i leihau gwastraff glywon ni ar Gwneud Bywyd yn Haws. Wrth edrych ymlaen at Cop26 mae Radio Cymru wedi bod yn rhoi sylw i鈥檙 argyfwng newid hinsawdd gyda chyfres o raglenni arbennig Ein Planed Nawr. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd y Haws, clwyon ni Teleri James Jones yn s么n am ei hobi o werthu a phrynu yn ail law ar y we er mwyn lleihau
驳飞补蝉迟谤补蹿蹿鈥�

Cynghorion Advice

Lleihau gwastraff To reduce waste

Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis

Ail-law Second hand

Newydd sbon Brand new

Cael gwared ar To get rid of

Dodrefn Furniture

4. Beti George 鈥� Paula Roberts

Teleri James Jones oedd honna鈥檔 siarad gyda Hanna Hopwood am ei harfer o werthu yn ail law drwy鈥檙 we er mwyn lleihau gwastraff. I glywed y rhaglen i gyd ewch i 麻豆社 Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, ble cewch chi glywed yn ogystal gyfweliad gyda Gwenllian Williams sy鈥檔 s么n am Eco Bryder
Cafodd Beti George sgwrs gyda鈥檙 Dr Paula Roberts sydd yn darlithio mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Paula wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ond am ei hanes yn seiclo yng Ngogledd Affrica byddwn ni鈥檔 clywed yn y clip nesa...

Eco Bryder Eco anxiety

Darlithio To lecture

Gwyddorau Naturiol Natural Sciences

Bwlch Pass

Bugeilio defaid Shepherding sheep

Cerrig Stones

Amlwg Obvious

Braw Fright

Copa Summit

H欧n Henach

Denu sylw To draw attention

5. Bryn Tomos 鈥� Leisa a Duncan Brown

Hanes taith ddifyr a pheryglus Paula Roberts yn Morocco oedd hwnna ar Beti a鈥檌 Phobol. Yn y rhaglen 鈥楴ewid Hinsawdd :Taid a Fi鈥� mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o鈥檙 bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella鈥檙 amgylchedd, gan ddechrau ei thaith gyda鈥檌 thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Dyma Leisa a Duncan yn edrych ymlaen at y rhaglen gyda Bryn Tomos...

Amgylchedd Environment

Y frwydr i atal The fight to stop

Cynnwys To include

Mawndir Peatland

Gwair Grass

Gwrthsefyll llifogydd to withstand flooding

Arloesol Innovative

Hynod o falch Very proud

Tynna鈥檙 goes arall Pull the other leg

6. Geraint Lloyd 鈥� Dr Wynne Davies

Rhaglen ddiddorol ac amserol iawn arall ar Radio Cymru 鈥楴ewid Hinsawdd :Taid a Fi鈥� . Derbyniodd Dr Wynne Davies un o brif wobrwyon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sef Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd a derbyniodd Fedal Arian y Gymdeithas yn ogystal. Dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Geraint Lloyd gyda Dr Wynne Davies ble mae e鈥檔 s么n am ei gysylltiad hir iawn 芒鈥檙 Gymdeithas, a鈥檙 Sioe Frenhinol...

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru The Royal Welsh Agricultural Society

Gwobrwyon Awards

Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd Honorary Life Vice President

Sylweddoli To realise

Olrhain hanes To trace the history

Merlod Ponies

Achau Pedigree

Pencampwriaeth Championship

Rhyfel War

Bridfa Stud farm

Pedolau Horseshoes

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad