Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021
Cnocell y Coed, Thrive, Strictly, Kizzy Crawford, Steffan Huws a Sioeau Cerdd
01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed
Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i鈥檞 weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu 鈥楯enks鈥� i鈥檞 ddweud wrth Caryl鈥�.
Cnocell y Coed Woodpecker
Creaduriaid Creatures
Nythu To nest
Ymddangos To appear
Rhyfedd iawn Very strange
Onglau Angles
Madfall Lizard
Neidr Snake
Hardd Pretty
Rhyfeddu To marvel
Anarferol Unusual
02. Aled Hughes - Hayley Thomas
Llawer o wybodaeth yn fan鈥檔a am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi鈥檔 edrych ar raglen Plant Mewn Angen y 麻豆社 nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on鈥檇 ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy鈥檔 gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy鈥檔 rhoi cymorth i blant a鈥檜 mamau yn ardal Port Talbot ac Afan . Pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusen fel Thrive? Dyma Hayley yn esbonio鈥�
Esbonio To explain
Profiadau Experiences
Cam-drin Abuse
Canolbwyntio To concentrate
Diogelwch Safety
Cyfleoedd Opportunities
Lloches Refuge
Dychryn To frighten
03. Radio Cymru 2 鈥� Strictly
Hayley Thomas oedd honna yn siarad am pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusennau fel Thrive. Bob wythnos ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones yn dal i fyny gyda Meg Neal, i s么n am beth sy鈥檔 digwydd yn Strictly. Roedd rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd wythnos diwetha a dyma Meg yn rhoi鈥檙 hanes i ni鈥�
Hudolus Magical
Byddar Deaf
Egn茂ol Energetic
Ddim cystal Not so good
Meddwl y byd o鈥檌 gilydd Think the world of each other
04. Beti a'i Phobol - Steffan Huws
Hanes Strictly yn fan鈥檔a gan Meg a Caryl. Mae Steffan Huws, gwestai Beti George wythnos diwetha, wedi cael bywyd diddorol iawn. Mae Steffan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae鈥檔 rhedeg busnes coffi Poblado, yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Treuliodd Steffan lawer o amser yn byw ac yn gweithio dramor yn Taiwan ac yn Columbia yn ne America. Yn y clip nesa, mae Steffan yn s么n wrth Beti am y tro cynta iddo fe fentro dramor....
Alldaith Expedition
Cronfa Fund
Trobwynt Turning point
Yng nghanol nunlle In the middle of nowhere
Anferth Huge
Datblygiad personol Personal development
Dilornus Disparaging
Meddylfryd Mindset
05. Lisa Gwilym - Kizzy Crawford
Steffan Huws oedd hwnna鈥檔 s么n am ei brofiad yn mynd ar alldaith dramor am y tro cynta. Ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher roedd Kizzy Crawford yn sgwrsio am ei halbwm newydd 鈥楻hydd鈥�. Hi sgwennodd holl ganeuon yr albwm a hi chwaraeodd pob offeryn arno hefyd. Ac yn ogystal hi wnaeth gynhyrchu鈥檙 albwm mewn stiwdio yn ei chartref yn Aberfan
Offeryn Instrument
Cynhyrchu To produce
Cyfrannu To contribute
Hyder Confidence
Mae gen i gof I have a recollection
Wedi gwirioni Wedi dwlu ar
Rhyddhau To release
06. Sioeau Cerdd Steffan
..ac arhoswn ni gyda cherddoriaeth yn y clip nesa, ond cerddoriaeth o sioeau cerdd y tro 鈥榤a. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Steffan Rhys Hughes wythnos diwetha gyda un o s锚r y West End, Samuel Wyn-Morris, sy'n s么n am ei brofiadau'n perfformio yn y sioe gerdd Les Miserables.
Sioeau cerdd Musicals
Diwydiant Industry
Ddim yn f锚l i gyd Not a bed of roses
Becso Poeni
Camu ar lwyfan To step on to a stage
Bwrw mlaen Get on with it
Dwlen ni Baswn i wrth fy modd
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
