Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021
Addurno, Brodyr, West Side Story, Nyrs a John Alwyn Griffiths
1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones
Basai鈥檔 anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd
Ond pa mor agos ydy鈥檙 ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o鈥檔 dipyn ifancach na鈥檙 brodyr eraill yn y teulu鈥�
Rhyngddyn nhw Between them
Yr un cylchoedd The same circles
Dyn diethr A stranger
Cadw pellter Keeping a distance
Yn achlysurol Occasionally
Dotio ar Dwlu ar
Rhyfedda Strangest
Llywydd y Blaid President of Plaid Cymru
Gweini To serve
Wedi drysu Confused
2. Bore Cothi 鈥� Alwyn Humphreys a West Side Story
Dafydd Iwan yn fan鈥檔a yn dweud nad oedd e a鈥檌 frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn cas谩u ei gilydd sydd yn y ddrama 鈥楻omeo and Juliet鈥�. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a鈥檙 ffilm 鈥榃est Side Story鈥� yn seiliedig ar y ddrama honno. Dydd Gwener diwetha cafodd fersiwn newydd o鈥檙 ffilm ei gweld am y tro cynta. Cyfarwyddwr y ffilm ydy Stephen Spielberg ac mae cerddoriaeth wreiddiol Leonard Bernstein i鈥檞 chlywed yn y ffilm newydd. Dyma Alwyn Humphries yn rhoi ychydig o hanes West Side Story ar Bore Cothi鈥�
Yn seiliedig ar Based on
Cyfarwyddwr Director
Y cyfle The opportunity
Cysylltu To link
Cwerylgar Quarrelsome
Dioddef o To suffer from
Yn rhyfeddol Astonishingly
Llwyfan Stage
Cynhyrchwyr Producers
Digalon Downhearted
Gwobrau Prizes
3. Gwneud Bywyd yn Haws - Addurno
Hanes Leonard Bernstein a West Side Story yn fan鈥檔a ar Bore Cothi. Dych chi wedi codi鈥檙 goeden Nadolig eto? Mae Heledd Jones Tandy wedi codi ei choeden hi ers Rhagfyr y cyntaf ac mae hi wrth ei bodd gydag addurno, fel buodd hi鈥檔 s么n wrth Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws鈥�
Caniat谩u To permit
Beirniadaethau Criticisms
Llwm Bleak
Gwagle Void
Noeth Naked
Hel To collect
Rhoddion Gifts
Allor Altar
Defnydd Material
Trawsnewid To transform
4. Hiraeth 鈥� Noel James - Beth yw hiraeth?
Hanna Hopwood yn holi Heledd Jones Tandy am addurno. Hefyd ar y rhaglen roedd Ann-Marie Lewis ac i glywed y rhaglen yn llawn ewch i 麻豆社 Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Gair sy鈥檔 anodd ei gyfieithu ydy 鈥榟iraeth鈥� on鈥檇 ife? Y comed茂wr Noel James fuodd yn chwilio am yr esboniad gorau o鈥檙 gair a dyma fe鈥檔 holi鈥檙 awdures Angharad Tomos鈥�
Gwirioneddol Actual
Brifo To hurt
Cyfeirio ato To refer to
Dyfyniad Quotation
Fy nhaid Fy nhad-cu
Carreg fedd Gravestone
Ysgrif Article
Melusaf The sweetest
5. Aled Hughes 鈥� Anwen Jones
Dyna ddyfyniad da on鈥檇 ife, yn dangos bod hiraeth yn gallu brifo weithiau. Mae Anwen Mai Jones, yn Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion ac mae hi wedi ennill gwobr Nyrsio Cymunedol yn ddiweddar. Dyma hi鈥檔 dweud wrth Aled Hughes beth oedd y cynllun cymunedol enillodd y wobr iddi hi...
Arbenigol Specialist
Cymunedol Community
Darparu To provide
Clinigau Clinics
Cleifion Patients
Ail-strwythuro Restructure
Ymgynghori gyda鈥檙 meddygfeydd Consulting with the surgeries
Ardal wledig ddiarffordd A remote rural area
Bwlch Gap
Lleihau To reduce
6. Beti 鈥� John Alwyn Griffiths
Anwen Mai Jones yn esbonio bod llawer iawn o鈥檙 cynlluniau gorau yn dod o鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithio ar y llawr yn hytrach nag oddi wrth y rheolwyr.
Mae John Alwyn Griffiths wedi sgwennu sawl nofel ditectif ond roedd e鈥檔 arfer gweithio fel ditectif yn ogystal, gydag Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Fe oedd gwestai Beti George ar Beti a鈥檌 Phobol a dyma fe鈥檔 s么n am y math o bobl oedd e鈥檔 synnu o鈥檜 gweld nhw鈥檔 twyllo.
.
Oedd e鈥檔 synnu He was surprised
Adran Dwyll Fraud Squad
Twyllo To defraud
Cyfreithwyr Lawyers
Cyfrifydd Accountant
Cyfaill Ffrind
Ar ei union Straight away
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
