Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022
Gwneud Bywyd yn Haws
Oeddech chi鈥檔 gwybod mae鈥檙 Ffindir a鈥檙 Swistir ydy鈥檙 ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn 么l un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o鈥檙 Swistir a Tristan Owen Williams o鈥檙 Ffindir. Dyma nhw鈥檔 sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws.
Mor ddwfn - So deep
Diwylliant - Culture
Cyd-fynd - To agree
Traddodiad - Tradition
Coedwigoedd - Forests
Penodol - Specific
Ysgogi - To motivate
Noeth - Naked
Bedydd t芒n - Baptism of fire
A s么n am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a鈥檙 Swistir yna agorwch ap 麻豆社 Sounds a theipio鈥檙 geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i鈥檙 bar bach chwilio.
Aled Hughes a Maggie Morgan
Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi鈥檔 chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i鈥檙 rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun.
Bellach - By now
Di-Gymraeg - Non Welsh speaking
Mewn gwirionedd - In reality
Teulu estynedig - Extended familly
Tad-cu - Taid
Aelod - Member
Yr aelwyd - The hearth
Mamiaith - Mother tongue
Mae mwy o hanes Maggie i鈥檞 gael yn y rhaglen arbennig 鈥楩y Achau Cymraeg鈥� ar 麻豆社 Sounds
Ifan Evans a Nan Thomas
Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn 诺yl Geltaidd yn ddiweddar ac un o鈥檙 cynta i鈥檞 longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru鈥檔 gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed?
Achau - Ancestry
Gwobr - Award
Llongyfarch - To congratulate
Llwyfan rhyngwladol - International stage
Cynrychioli - Represent
Pwy gelen i? - Pwy gawn ni?
Yr unig fai - The only fault
Pallu - Gwrthod
Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o鈥檔 diwtor Cymraeg yn ogystal!
Rhys Mwyn a Catrin Saran
Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu 鈥榊 Darlun 鈥� Dwy Law yn Erfyn鈥� 鈥� iddi pan oedd hi鈥檔 blentyn...
Mam-gu - Nain
Erfyn - Praying
Difyr - Diddorol
Wyres - Grand-daughter
鈥榊 Darlun 鈥� Dwy Law yn Erfyn鈥� dyna i chi g芒n hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde?
Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake
Os dach chi鈥檔 gwylio 鈥楾he Great British Sewing Bee鈥� dach chi鈥檔 si诺r o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio鈥檙 beirniaid yn arbennig yr wythnos o鈥檙 blaen ac ennill gwobr 鈥楧illedyn yr Wythnos鈥�. Dyma Debra yn s么n am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi...
Beirniaid - Judges
Dilledyn - Garment
Uffar o brofiad - Hell of an experience
Gwnio - To sow
Her - A challenge
Cyd-destyn - Context
Becso - Poeni
Cywrain - Elaborate
Trawsnewid - To transform
Dyluniad - A design
Lluchio - Taflu
A phob lwc i Debra efo鈥檙 gystadleuaeth o hyn ymlaen!
Dei Tomos a Dani Schlick
Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn 么l, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi鈥檔 gweithio i鈥檙 Mentrau Iaith. Dyma hi鈥檔 egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg.
Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar
Tebygrwydd - Similarity
Synau - Sounds
Ymdopi - To cope
Ieithyddol - Linguistic
Cam - A step
Mynychu digwyddiadau - Attending evebts
Cysylltiadau - Connections
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
