Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022
Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022
Dei Tomos Gwilym Owen
Dw i鈥檔 siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri鈥檙 Wythfed a鈥檌 chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri鈥檔 frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo鈥檙 darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor...
Bonheddwr - Genlteman
Mewn gwirionedd - In reality
Fawr h欧n - Hardly any older
Pwys mawr - Great pressure
Cyfoethocach - Richer
Cefnog - Well-off
Dylanwadu - To influence
Tystiolaeth - Evidence
Dychwelyd - To return
I鈥檙 neilltu - To one side
Dros Ginio Elfyn ac Alun
Doedd na ddim s么n bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith 鈥� ond hanes ddiddorol ynde?
Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a鈥檙 gwleidydd Elfyn Llwyd a鈥檌 frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy鈥檔 siarad gynta ...
Cyfreithiol - Legal
Bargyfreithiwr - Barrister
Ddaru - Wnaeth
Ganwyd - Was born
Sicrhau - To ensure
Beti a鈥檌 Phobol
Hanes Elfyn Llwyd yn enwi ei frawd yn fan鈥檔a, ar raglen Dewi Llwyd
Yr artist Meirion Jones oedd gwestai Beti George ac yma mae鈥檔 s么n am dafodiaith Mwldan - ardal wledig ger Aberteifi. Mi wnaeth Meirion ymchwil MA ym Mhrifysgol Llambed, neu Llanbedr Pont Steffan, ar y dafodiaith. Oedd o鈥檔 gyfarwydd ag ardal a thafodiaith Mwldan cyn gwneud yr ymchwil? Dyma fo鈥檔 ateb cwestiwn Beti...
Tafodiaith - Dialect
Cyfarwydd 芒 - Familiar with
Crwt - Bachgen
Mynychu - To attend
Crynhoi - To assemble
Ysgolhaig - Scholar
Cofnodi - To record
Danto - To lose heart
Ofergoeliaeth - Superstition
Talwrn 鈥� Pennill Mawl Y CWPS A鈥橰 FFOADURIAID
Golwg ar dafodiaith arbennig ardal Mwldan yn fan鈥檔a ar Beti a鈥檌 Phobol.
Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy鈥檙 Talwrn Radio Cymru. Dyma i chi un gerdd o gystadleuaeth yr wythnos diwetha rhwng t卯m y 鈥楥wps鈥�, Aberystwyth a th卯m y 鈥楩foaduriaid鈥� - er dw i ddim yn meddwl eu bod yn ffoaduriaid go iawn rhywsut! Sylwebwyr chwaraeon oedd testun y gerdd...
Cerdd - Poem
Ffoaduriaid - Refugees
Sylwebwyr chwaraeon - Sport commentators
Testun - Subject
Chwiban - Whistle
Cyffur - Drug
Dall - Blind
Gweiddi鈥檔 groch - Shouting loudly
Harten - Heart attack
M么r o ddagrau llaith - A sea of moist tears
Bore Cothi Y Gwcw
Wel am gerdd hyfryd ynde?
Dach chi wedi clywed y gog, neu鈥檙 gwcw eleni? Wel, os nad ydych chi, fydd na
ddim llawer o gyfle i鈥檞 chlywed eto gan fod y gwcw am ddechrau ar ei thaith yn 么l i Affrica cyn bo hir, fel buodd Daniel Jenkins-Jones o鈥檙 RSPB yn s么n wrth Shan Cothi
Marchogaeth - Horse riding
Yn fy unfan - Still
Arwydd - A sign
Ar fin - About to
Goroesi - To survive
Creaduriaid - Creatures
Eos - Nightingale
Gwenoliaid - Swallow
Diwylliant - Culture
Clychau鈥檙 Gog - Bluebells
Bore Cothi Dawnsio
...ac arhoswn ni efo Bore Coffi am y clip nesa 鈥� ond i fyd y bale awn ni y tro 鈥榤a.
Mae Luke Bafico (pron. Bahfeeko) o Gaerdydd yn ddawnsiwr proffesiynol ac mae o wrthi鈥檔 ymarfer ar gyfer fersiwn modern o鈥檙 bale The Nutcracker fydd yn teithio Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Dyma Luke yn esbonio wrth Shan Cothi sut dechreuodd o ym myd y ddawns
Nes ymlaen - Later on
Tyfu lan - Tyfu fyny
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
