Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Dros Ginio Beti a Raymond

Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a鈥檌 mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy鈥檔 gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.

Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament

Yn hen gyfarwydd - Very familiar

Llwyddiant ysgubol - A roaring success

Petrusgar - Hesitant

Y naill a鈥檙 llall - One or the other

Trychineb - Disaster

Ffasiwn beth - Such a thing

Am wn i - As far as I know

Serth - Steep

Brwdfrydig - Enthusiastic

ABC Y Geiriadur

Raymond Williams a鈥檌 fam Betty yn s么n am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las.

Taith drwy鈥檙 wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae鈥檙 geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae鈥檙 awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o鈥檙 geiriadur ar-lein fel buodd hi鈥檔 s么n wrth Ifor鈥�

Canmlwyddiant - Centenary

Penodol - Specific

Gweddu - To suit

Antur - Adventure

Cyd-destun - Context

Amaethyddol - Agricultural

Mynediad i鈥檙 bydoedd - Access to the worlds

Dylsa - Dylai

Stiwdio Phyllis Kinney

Yr awdures Manon Steffan Ross oedd honna鈥檔 s么n am sut mae hi鈥檔 defnyddio鈥檙 Geiriadur ar-lein wrth sgwennu ei cholofn yn Golwg.

Dydd Llun y 4ydd o Orffennaf mi roedd Phyllis Kinney yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, a buodd ei merch, Eluned Evans yn s么n wrth Nia Roberts am ddyddiau cynnar ei Mam yn America. Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Phyllis ers ei dyddiau cynnar yn Pontiac, Michigan. Mi roedd Phyllis a鈥檌 g诺r Meredydd Evans, wrth gwrs, yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg.

Awdurdod ar ganu gwerin - An authority on folk music

Graddau di-rif - Many degrees

Meistr mewn cyfansoddi - Masters in Composing

Sbarduno - To inspire

Parchedig - Reverend

Cyflwyniad - Introduction

Ddaru hi - Wnaeth hi

Gweinidog - Minister

Trwy gyfrwng - Through the medium of

Emynau - Hymns

Gwneud Bywyd Yn Haws - Aids

A phen-blwydd hapus iawn i Phyllis Kinney ynde, yn gant oed ac yn 么l ei merch mewn hwyliau da iawn.
Ar Gwneud Bywyd yn Haws yr wythnos hon buodd Hanna Hopwood a鈥檌 gwesteion yn nodi pedwar deg mlynedd ers buodd farw鈥檙 Cymro Terrence Higgins 鈥� un o鈥檙 bobl cynta ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Hanna a Mark Lewis sydd yn Uwch Swyddog Polisi i Gr诺p HIV ac AIDS Aelodau Seneddol San Steffan . Dyma鈥檙 ddau yn s么n am bodlediad newydd A Positive Life sydd ar gael ar 麻豆社 Sounds .

Yn gysylltiedig ag - Associated with

San Steffan - Westminster

Holl bwysig a chanolog - All important and central

Tyfu lan - Tyfu fyny

Hoyw - Gay

Cwato - Cuddio

Bore Cothi Elinor

Ychydig o hanes Terrence Higgins yn fan鈥檔a ar Gwneud Bywyd yn Haws.
Elinor Staniforth o Gaerdydd fuodd yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi. Dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg yn 2019 ac mae hi wedi derbyn swydd fel Tiwtor Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Dyma hi鈥檔 esbonio pam dechreuodd hi ddysgu鈥檙 iaith鈥�

TGAU - GCSE

Rhydychen - Oxford

Tanio - To fire

Pam lai - Why not

Cymdeithasu - To socialise

Yn llythrennol - Literally

Bore Cothi Llangollen
A phob lwc i Elinor ynde, yn ei swydd newydd efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor.
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 么l ar 么l y cyfnod clo. Mi fydd y dre yn llawn lliw efo cantorion a dawnswyr o bob rhan o鈥檙 byd yn cystadlu yn y pafiliwn. Mae鈥檙 gyflwynwraig Sian Thomas wedi bod yn arwain y llwyfan cystadlu ers rhai blynyddoedd. Beth sy鈥檔 arbennig am yr Eisteddfod hon felly?

Cantorion - Singers

Rhyngwladol - International

Cyflwynwraig - Female presenter

Melin dd诺r - Water mil

Prydferth - Pretty

Ar gyrion - On the outskirts

Tyle - Hill

Cwympo mas - To fall out

Cyt没n - In harmony

Atseinio - To echo

Dyletswyddau - Duties

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad