Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn

Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo鈥檙 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa.
Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o鈥檙 pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o鈥檔 byw yn Sir Fynwy.

Rhestr fer Short list

Cyhoeddi To announce

Castell-nedd Neath

Sir Fynwy Monmouthshire

Cwrs dwys Intensive course

Yn y pendraw In the end

Degawd Decade

Gohebydd Correspondent

Rhyngwladol International

Y Llewod The Lions

Hyrwyddo To promote

Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn 鈥� Sophie Tuckwodd

Stephen Bale oedd hwnna 鈥� gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn 么l.

Wynebu To face

Ar yr un pryd At the same time

Yr ifanca Y fenga

Cyfathrebu To communicate

Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn 鈥� Joe Healy

Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi鈥檔 dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro..
Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o鈥檔 byw yng Nghaerdydd.

Gwiwer Squirrel

Diwylliant Culture

Cysylltiad Connection

Braidd 鈥榙i gadael Hardly left

Ymwybodol Aware

Iau 鈥榝engach/ifancach

Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn 鈥� Ben 脫 Ceallaigh

Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo鈥檙 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar 么l cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo鈥檙 pedwerydd ymgeisydd, Ben 脫 Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn 么,l ac erbyn hyn mae o鈥檔 darlithio yn Gymraeg.

Darlithio Lecturing

Ymgeisydd Candidate

Gwyddeleg Irish language

Rhwystredig Frustrating

Parhau To continue

Rhyfeddol Amazing

Mynychu To attend

Diolchgar Thankful

Pigion 鈥� Bore Cothi Sioe Fawr Lowri

Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa.

Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri鈥檔 dod o Efenechtyd ger Ruthin.

Rownd derfynol Final round

Y Sioe fawr The Royal Welsh

Nawdd Sponsorship

Llysgennad Ambassador

Braint ac anrhydedd An honour and a privilege

Cynrychioli To represent

Atgofion Memories

Cystadlu To compete

Agosatrwydd Intimacy

Pigion 鈥� Ar Blat Roy Noble

Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd.
Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed?

Darlledwr Broadcaster

Ers achau A long time ago

Pan o鈥檔 i鈥檔 caru When I was courting

Lan lofft I fyny鈥檙 grisiau

Swllt A shilling

Wejen Girlfriend

Beudy Cowhouse

Hanesyddol Historical

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad